Dydd Sadwrn 20 Mai, 2023
Crimpiau
Mae Crimpiau (sy’n golygu ‘hard sharp edge; ridge, spur; ledge’) wedi’i leoli rhwng Capel Curig a Llyn Crafnant, ac mae’n llecyn manteisiol er ei uwchder o 475m / 1,558 ft yn unig. Mae llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel un o’r golygfannau gorau yn Eryri. Basai’n rhaid i ni gytuno! (Yn y llun mae Moel Siabod, Pedol Yr Wyddfa, a’r Glyderau. Y tu ôl i’r camera mae Dyffryn Crafnant.)
Byddwn yn cerdded o Drefriw i’r olygfan hon, gan basio Llyn Crafnant ar y ffordd allan, wedyn dychwely i Drefriw ar lwybr golygfaol arall, heibio i Lyn Geirionydd.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 10 milltir / 16 km
Gradd: Cymedrol/caled (cymedrol i’r rhan fwya, ond efo esgyniad braidd yn serth tuag at Crimpiau ei hun)
Amser ymadael: 09:20 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Idris Bowen & Nigel Thomas
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.