Mae Gŵyl Gerdded Trefriw yn fenter ddim-am-elw; fyddwn ni ddim yn codi ffi am ein teithiau cerdded, ond eto mae rhedeg gŵyl dri diwrnod yn beth gweddol ddrud. Er mai gwirfoloddwyr sydd yn gwneud bron pob dim, er hynny mae’n rhaid i ni ddod o hyd i bres bob blwyddyn ar gyfer pethau fel arbennigwyr ar ein teithiau, aelodaeth o ‘Walkers are Welcome’, yswiriant, hurio neuadd y pentref am dri diwrnod, llywyddu’r wefan, newid y dyddiadau ar ein baneri, cael printio’r taflenni a’r tocynnau raffl, darparu lluniaeth …. mae’r rhestr yn un hir!
Yn bennaf mae ein hincwm yn dod o:
- rhoddion gan ein cerddwyr am fynychu teithiau cerdded (byddwn yn awgrymu £10 am daith ddiwrnod-llawn, a £5 am daith hanner-diwrnod)
- rhoddion at luniaeth
Derbynnir rhoddion trwy bres parod neu gerdyn – cymerir y rhain ar y dydd.
O ganlyniad rydan ni’n ddiolchgar iawn i’r canlynol; maen nhw’n ein galluogi i gadw’r ŵyl i fynd o un flwyddyn i’r llall:
- ein cerddwyr, am eu haelioni cyson
- arweinyddion ein teithiau cerdded, sydd bob tro mor hael efo’u hamser
- ein gwirfoddolwyr eraill, sydd yn helpu mewn amrywiol ffyrdd yn ystod yr ŵyl
- ein pwyllgor trefnu, sydd yn rhoi cymaint o amser trwy’r flwyddyn
- ein noddwyr (gweler ein tudalen noddwyr)
Yn ogystal, yn 2017 ymunon ni â’r Partneriaeth Awyr Agored, sydd yn darparu a sybsideiddio hyfforddiant. O ganlyniad i hyn, yn y flwyddyn ddiwetha mae nifer o aelodau o’n tîm wedi diweddaru eu cymwysterau Cymorth Cyntaf.
Yn 2017 cawsom hefyd grant bach gan Chwaraeon Cymru / Y Gist Gymunedol, sydd wedi talu ein costau hyfforddiant, ac wedi ein galluogi i brynu cyfarpar (e.e. pecynnau cymorth cyntaf, mapiau, sachiau cefn i ferched a chyfarpar mordwy).
DIOLCH O GALON I CHI I GYD!