Contents
Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2023
Llynnoedd bychain, Chwedlau a Llawer o natur
Byddwn yn teithio mewn ceir i gychwyn ein taith gerdded, sef hen fwynglawdd Cyffty ger Nant Bwlch-yr-Haiarn yng Nghoedwir Gwydir. (Mae Cyffty yn 4 milltir o Drefriw – gweler y daith yma.)
Mae hon yn daith gerdded hamddenol fydd yn cychwyn wrth un o’r hen fwyngloddiau yn ardal Nant Bwlch-yr-Haiarn. Bydd ein llwybr yn dilyn nifer o lynoedd a grëwyd ar gyfer yr hen ddiwydiant hwn, a hefyd archwilio blodau gwyllt, natur, hanes a chwedlau’r ardal unigryw hon. Byddwn yn cerdded ar lwybrau da i’r rhan fwyaf, efo rhannau byrion ar dir mwy garw a mwy serth, wedyn cyrraedd golygfan naturiol mewn pryd i gael cinio yno. O fan’na byddwn yn parhau a dychwelyd i’n man cychwyn, wedyn dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.
Dyma gyfle i archwilio natur yn y bryniau efo cwpl o arbenigwyr yn y maes.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 5 milltir
Gradd: Cymedrol/hamddenol
Amser ymadael: 11:00 o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Margaret Thomas a Pete Kay
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.