Moel Siabod

Dydd Sadwrn 20 Mai, 2023

Moel Siabod

Mae hon yn gylchdaith heriol sy’n cychwyn o Bont Cyfyng, ger Capel Curig. Byddwn yn esgyn Moel Siabod ar ei chrib dwyreiniol, lle bydd ‘na elfen o sgramblo o Lyn y Foel i’r copa. O’r copa (2861’ / 872m) mae ‘na olygfeydd da i bob cyfeiriad o fynyddoedd gogledd Eryri, yn enwedig o Bedol Yr Wyddfa. Byddwn yn disgyn i Blas y Brenin i lawr cefn llydan Siabod, wedyn dilyn Afon Llugwy yn ôl i Bont Cyfyng.

Byddwn yn teithio i Bont Cyfyng ac yn ôl yn ein minibws.

Cofiwch – weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  tua 7 milltir / 11 km

Gradd:  Taith fynydd gymedrol/lafurus efo rhyw 2,500′ (760m) o esgyniad.

Amser ymadael:  09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Keith Hulse & Paul Newell


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig