Dydd Sadwrn 20 Mai, 2023
Rhaeadrau a’r Afon Llugwy
I gychwyn byddwn yn dal ein minibws o Drefriw i Fetws-y-coed (20 munud), wedyn cerdded ar hyd yr afon i Gapel Gurig. Ar y daith gerdded hon – trwy dolydd a choed – sy’n dilyn darn o Lwybr Llechi Eryri, fyddwn ni byth yn bell o Afon Llugwy, a’i rheadrau, gan gynnwys y Rhaeadr Ewynnol enwog. Wrth agosau at Gapel Curig bydd ‘na olygfeydd da dros y mynyddoedd o ogledd Eryri.
Bydd y daith yn gorffen ym Mhlas y Brenin yng Nghapel Curig, lle bydd ‘na gyfle am banad tra’n disgwyl ein minibws yn ôl i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6½ milltir / 11 km
Gradd: Hawdd/cymedrol
Amser ymadael: 10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Liz Burnside a Stuart Martin
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.