I fyny Grinllwm a thu hwnt

Dydd Sadwrn 20 Mai, 2023

I fyny Grinllwm a thu hwnt

Grinllwm yw’r allt sy’n edrych dros Drefriw o’r de.  Bydd y daith olygfaol, heddychlon hon yn cychwyn trwy esgyn yr allt serch hon, lle byddwn yn cael brêc ar y top i fwynhau’r golygfeydd gwych i lawr Dyffryn Conwy i’r arfordir.

Bydd yr ochr arall i Grinllwn yn ein cael ar ymylon pentrefan, cysglyd Llanrhychwyn, lle byddwn yn stopio i ymweld â’r eglwys, un o’r hynaf yng Nghymru.

Bydd y llwybr yn mynd â ni wedyn ar ymylon Coedwig Gwydir, hyd at man uchel uwchben Llyn Glangors a mwynglawd Pandora gynt, lle bydd golygfeydd da o’r mynyddoedd. Byddwn yn disgyn i Lyn Geirionydd (toiledau yn y maes parcio), wedyn dychwelyd i Drefriw drwy’r coedwig a heibio i’r llethr llawn clychau’r gog.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol (ond efo cychwyn serth iawn), ac ar bês hamddenol

Amser ymadael:  10:20 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Clive Noble a David Davies


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig