Category Archives: 2018 archive

Cylchdaith Moel Siabod

Moel Siabod

Dydd Sul 20fed Mai, 2018

Moel Siabod

Mae hon yn gylchdaith heriol sy’n cychwyn o Bont Cyfyng, ger Capel Curig. Byddwn yn esgyn Moel Siabod ar ei chrib dwyreiniol, lle bydd ‘na elfen o sgramblo o Lyn y Foel i’r copa. O’r copa (2861’ / 872m) mae ‘na olygfeydd da i bob cyfeiriad o fynyddoedd gogledd Eryri, yn enwedig o Bedol yr Wyddfa. Byddwn yn disgyn i Blas y Brenin i lawr cefn llydan Siabod (ac efallai galw i mewn am banad), wedyn dilyn Afon Llugwy yn ôl i Bont Cyfyng.

Byddwn yn teithio i Bont Cyfyng ac yn ôl yn ein bws mini.

Sylwer – mae’n medru bod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes sy’n dal dŵr.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd a digon i’w yfed.

Pellter:  tua 7 milltir / 11 km

Gradd:  Cymhedrol/caled

Cyfarfod:  8.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Chris Hopkins and Steve Collister

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Moel Siabod Round

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Drysau Cysegredig

Dydd Gwener 18fed  Mai, 2018

Drysau Cysegredig

Taith gerdded hyfryd o Drefriw ydy hon fydd yn ymweld â 3 eglwys a chapel, sef Egwlys Trefriw, hen Eglwys Llanrhychwyn, Capel Gwydir Uchaf ac Eglwys Llanrwst.

O Drefriw byddwn yn cerdded trwy’r coed uwchben Dyffryn Crafnant er mwyn cyrraedd Eglwys Llanrhychwyn, wedyn disgyn ar ymyl y goedwig tuag at Gapel Gwydir Uchaf. Byddwn wedyn yn dilyn yr afon i Lanrwst, a’i dilyn eto yn ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 7.5 milltir / 12 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol

Cyfarfod:  10.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Ken Brassil a Bernard Owen

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Sacred Doors

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Llyn Elsi

Dydd Gwener 18fed Mai, 2018

Ymhell uwchben y torfeydd

Mae Betws-y-coed yn brysur yn ystod y tymor – ond ddim wrth Lyn Elsi lle byddwn ni’n mynd! Mae hon yn daith gerdded wrth ochr yr afon ym Metws-y-coed, wedyn ar draws Pont y Mwynwyr, ac i fyny i Lyn Elsi, yn rhannol trwy ddilyn Sarn Helen, yr hen ffordd Rufeinig. Ar ôl cerdded y filltir o gwmpas y llyn (o le mae golygfeydd da o fynyddoedd gogledd Eryri), byddwn yn dychwelyd i Fetws-y-coed.

Er bod Llyn Elsi ryw 700′ uwchben Betws-y-coed, dydy’r esgyniad ddim yn serth, wedyn ar y ffordd yn ôl mae’n mynd ar i lawr yr holl ffordd!

Bywddyn yn defnyddio ein bws mini i fynd i Fetws-y-coed ac i ddychweld ar ddiwedd y dydd.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 5.5 milltir / 9 km

Gradd:  Cymhedrol

Cyfarfod:  10.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Cate and Mike Bolsover

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Far from the Madding Crowd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Pedol Crafnant

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Pedol Crafnant

Dydy hon ddim yn daith i’r rhai gwangalon! Byddwyn yn dilyn llwybr Ras Flynyddol Melin Trefriw, sydd âg esgyniad o ryw 4000′ (h.y. yn uwch na’r Wyddfa!).

I gychwyn byddwn yn esgyn Cefn Cyfarwydd – y grib y tu ôl i Drefriw – cyn anelu ar hyd ei thop llydan i copaoedd Creigiau Gleision. O fa’ma mae ‘na olygfeydd gwych o’r Glyderau, yr Wyddfa, a hyd yn oed o’r arfordir. Ar ôl ymweld â thopiau is Craiglwyn, Craig Wen a’r Crimpiau, byddwn yn disgyn i Lyn Crafnant, wedyn cerdded dros Fynydd Deulyn i Lyn Geirionydd ar ein ffordd yn ôl i Drefriw.

Mae’r ardal hon yn anghysbell, mae un rhan yn wlyb dan draed, ac mae’n medru bod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr. (Efallai y basai gaiters yn syniad da mewn mannau.)

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd a digon i’w yfed.

Pellter: tua 11 milltir / 17.5 km

Gradd: Caled, mynydd (gweler y proffil isod)

Cyfarfod: 8.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: Tony Ellis a Brian Miller

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Crafnant Horseshoe

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Mae’r Llanw yn Uchel

Dydd Gwener/Sadwrn/Sul 18-20 Mai, 2018

Mae’r Llanw yn Uchel

Disgrifiad: Mae Afon Conwy yn llanwol hyd at Tan Lan, rhwng Trefriw and Llanrwst. Mae’r daith hon yn hollol wastad, ac i’r rhan fwyaf byddwn ar orlifdir yr afon. Bydd ‘na gipolygfeydd o’r hen gei o le cafodd llechi a mwynau eu cludo cyn i’r stêmars ddod â’r ymwelwyr yn eu cannoedd. Byddwn yn dilyn y Cob heibio i Tan Lan i’r bont grog dros yr afon, wedyn croesi i ddilyn y dorlan ar ochr Llanrwst. Bydd cyfle am luniaeth yng nghaffi Tu Hwnt i’r Bont cyn dychwelyd i Drefriw ar ochr hon i’r afon, gan ddilyn llwybr gwahanol.

Hyd:  Hanner diwrnod

Pellter:  tua 4 milltir / 6.5 km

Gradd:  Hawdd a hamddenol, ond gwisgwch esgidiau da achos gall rhannau o’r dorlan fod tipyn yn anwastad dan draed.

Cyfarfod:  1.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Jan Blaszkiewicz a Kim Ellis

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - The Tide is High

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Planhigion Alpaidd

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Planhigion Alpaidd

Cymuned blanhigion hyna Prydain yw planhigion Alpaidd, ac maent yn cynrychioli’r dudalen gyntaf yn hanes naturiol ein hynys ers Oes yr Iâ. Diflannon nhw i’r rhan fwya ym Mhrydain wrth i’r hinsawdd gynhesu, ond trwy wyrth, mae nifer fach o’r planhigion hardd a chaled hyn yn bodoli mewn ychydig o lefydd arbennig.

Efallai bod Gwarchodfa Natur Cwm Idwal yn Nyffryn Ogwen yn un o’r fwya enwog, a lle hawdd ei gyrraedd ymysg ‘Arctic Refugia’ Eryri.

Bydd y daith hon yn ymweld â rhai o’r cymunedau planhigion hyn, ac byddwn yn cysidro eu hecoleg yn ogystal â bygythiadau i’w goroesiad.

Hyd: Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd, llawer i’w yfed, a dillad addas ar gyfer yr ucheldiroedd. Efallai bydd binocwlars a lensys llaw o ddefnydd hefyd. Byddwn yn ôl erbyn 5.30yp (yn gynharach os bydd y tywydd yn arw).

Pellter: Dim mwy na 6 milltir / 10 km

Gradd ac addasrwydd: Cymhedrol, ond mae’n rhaid i chi fod yn gyfforddus yn cerdded dros dir a fydd, ar adegau, yn serth ac anwastad oddi ar y llwybrau.

Cyfarfod:  9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) ac mi fyddwn yn rhannu ceir i Gwm Idwal ac yn ôl.

Arweinyddion: Pete Kay and Joan Prime

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Alpine Plants

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Amser maith yn ôl

 

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Amser maith yn ôl (taith gerdded archeoleg)

Eleni byddwn yn cyd-weithio efo Cymdeithas Eryri eto i gyflwyno taith gerdded efo archeolegydd a chynghorwr treftadaeth Dr Sarah McCarthy, gan archwilio rhai o dirweddau archeolegol a hanesyddol yr ardal hon.

Bydd y daith yn cychwyn a gorffen yn Llanbedr-y-cennin, a bydd uchelbwyntiau yn cynnwys Pen-y-gaer, caer Oes yr Haearn (â’i chevaux de frise amddifynnol), golygfeydd gwych tuag at y Carneddau a dros Bae Lerpwl, a hefyd arhosiad sydyn yn un o dafarnau gorau Gogledd Cymru!

Bydd hon yn daith ‘cymedrol’, efo rhywfaith o gerdded ar dir mwy garw oddi ar y llwybr.

Byddwn yn teithio yn ein bws mini i fan cychwyn y daith gerdded, ac yn dychwelyd yn yr un modd.

Hyd:  Trwy’r dydd.   Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 5.5 milltir / 9 km

Gradd:  Cymedrol

Cyafarfod:  9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinydd:   Dr Sarah McCarthy a Cat Scheltinga

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Way Back When

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Gwlad y Gog

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Gwlad y Gog

Clywir y gog trwy gyfan mis Mai yn ardal hardd y daith gerdded hon. Bydd y bws mini yn ein cludo i Lyn Crafnant, o le byddwn yn cerdded dros y bwlch tuag at Gapel Curig (lle mae golygfeydd gwych tuag at Siabod a’r Wyddfa). Wedyn byddwn yn cerdded mewn cylch yn ôl, ar lwybrau llydan, gan basio Llyn Bychan cyn cyrraedd Llyn Geirionydd (lle mae ‘na doiledau), a dychwelyd i Drefriw trwy’r dolydd ar lan Afon Crafnant.

Dan ni ddim yn medru gwarantu clywed y gog, wrth reswm, ond mae hon yn daith gerdded wych beth bynnag, ac os na chlywn ni hi, mi fwytwn ni ein hetiau!

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  tua 10 milltir / 16 km

Gradd:  Cymhedrol, bron yn galed oherwydd ei hyd, ond hamddenol

Cyfarfod:  9.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Nigel Thomas a Mike Bolsover

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Cuckoo Country

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Dŵr i’r Arfordir

Dydd Gwener 18fed Mai, 2018

Dŵr i’r Arfordir

Bydd y daith gerdded hon yn ymweld â’r 4 llyn sydd yn darparu dŵr ar gyfer y trefi ar yr arfordir, a hefyd i Ddyffryn Conwy. I gychwyn byddwn yn mynd yn y bws mini allan o Drefriw i Gwm Cowlyd, wedyn cerdded i Lyn Cowlyd cyn anelu dros y bryn am Lyn Eigiau. Byddwn wedyn yn cerdded 250m i fyny i Lyn Melynllyn a Llyn Dulyn, llynnoedd mynydd bach, cyn dychwelyd i Gwm Eigiau ar lwybr arall er mwyn dal y bws mini yn ôl i Drefriw. Mae llwyth o hanes diwydiannol yn perthyn i’r ardal hon hefyd.

Mae’r ardal hon yn anghysbell, ac mae’n medru bod yn oer, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes gwrth-ddŵr.

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd a digon i’w yfed.

Pellter:  tua 10 milltir / 16 km

Gradd:  Caled oherwydd y tir a’r pellter

Cyfarfod:  9.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: Tony Ellis and Colin Boyd

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Water for the Coast

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

I Lawr i’r Môr

Dydd Sadwrn a Dydd Sul 19-20 Mai, 2018

I lawr i’r Môr

2018 ydy Blwyddyn y Môr yng Nghymru, felly byddwn yn dathlu hyn trwy gerdded o Drefriw i’r môr – a dan ni ddim isio brysio, felly mi fyddwn ni’n gwneud hyn mewn dwy ran, dros ddau ddiwrnod.

Ar y diwrnod cyntaf byddwn ni’n cerdded o Drefriw i ardal Pen-y-gaer. Ar ddiwedd y diwrnod mi ddown ni yn ôl yn y bws mini.

Hwn ydy’r diwrnod mwya caled o’r ddau – o bell – sydd yn cychwyn efo’r esgyniad serth i ben Cefn Cyfarwydd, y grib y tu ôl i Drefriw. O hyn ymlaen byddwn yng ngodreon y Carneddau, a byddwn yn ddisgyn i Gwm Cowlyd cyn croesi ysgwydd Moel Eilio i Gwm Eigiau. O fa’na byddwn yn anelu at y bwlch rhwng Pen-y-gaer a Phenygadair.

Ar yr ail ddiwrnod byddwn ni’n dychwelyd ar y bws mini i le fuon ni y diwrnod cynt, wedyn parhau i’r môr yng Nghonwy, yn rhannol ar hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, gan basio Bwlch Sychnant cyn dilyn y llwybr ar hyd Mynydd y Dref a disgyn i lawr i Gonwy. Ac yno gobeithio bydd ‘na amser am banad a hufen iâ ar y cei, os hoffech chi!

Sylwer – Trwy archebu lle rydach chi’n ymrwymo i fynychu ar y ddau ddiwrnod.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd bob dydd.

Pellter:  tua 12 milltir + 7.5 milltir / 19 km + 12 km

Gradd:  Cymhedrol/Caled. Bydd llawer o’r daith ar lwybrau dros weundir a’r ucheldiroedd. Bydd y diwrnod cyntaf yn llawer mwy heriol ac anghysbell. Cofiwch y medrith hi fod yn oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.

Cyfarfod:  Dydd Sadwrn am 9.30 y.b. a  dydd Sul am 9.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Colin Devine a Karen Martindale

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Down to the Sea

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Yn ôl o Fetws-y-coed

 

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Yn ôl o Fetws-y-coed

Byddwn yn teithio i fyny Dyffryn Conwy o Drefriw i Fetws-y-coed ar gludiant cyhoeddus (bws), i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy. Mae hon yn daith odidog – ar gyflymdra hamddenol – a cheir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri.

O Fetws-y-coed byddwn yn cerdded i fyny ceunant hardd Aberllyn heibio i’r hen fwynglawdd, wedyn wrth ochr Llyn y Parc lle byddwn yn cael cinio. Byddwn yn ymweld â mwynglawdd Nant Bwlch-yr-haearn (Nant BH) wedyn i olygfan efo golygfeydd dros Lanrwst a Dyffryn Conwy.  Wrth i ni groesi Mynydd BH bydd y golygfeydd yn newid i’r rheiny dros gadwyni Gogledd Eryri o le byddwn yn cerdded i lawr i Eglwys Llanrhychwyn a Dyffryn Crafnant yn ôl i Drefriw heibio Rhaeadr y Tylwyth Teg.

Mae’r llwybr yn dilyn cymysgedd o draciau coedwig a llwybrau eraill.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  7.5 miles / 13 km

Gradd:  Cymedrol

Cyfaddasrwydd:  Pawb sydd yn weddol heini

Cyfarfod :  10.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal cludiant cyhoeddus i Fetws-y-coed

(Bydd rhaid i chi brynu tocyn bws, oni bai bod gynnoch chi bas)

Arweinwyr :  John Barber a Dave Prime

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Back from Betws

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Golygfeydd o Goedwig Gwydir

Dydd Gwener 18fed Mai, 2018

Golygfeydd o Goedwig Gwydir

Mae hon yn daith gerdded olygfaol, gwych yn rhannau uwch ymylon Coedwig Gwydir, sydd â golygfeydd agored, hyfryd dros y dyffrynnoedd cyfagos, a thraw i fynyddoedd gogledd Eryri.

Byddwn yn mynd yn y bws mini i Wydir Uchaf (dim ond 2 filltir o Drefriw), wedyn bydd ein llwybr yn anelu i fyny at Lyn Parc, sydd â golygfeydd uchel uwchben Dyffryn Conwy, wedyn dros i Nant Bwlch-yr-haearn, lle mae modd (pan fydd hi’n glir) gweld 9 copa dros 3000′.  Byddwn yn pasio Llyn Bwlch y gwynt a Llyn Glangors, sydd â’u golygfeydd eu hunain tuag at y mynyddoedd, wedyn yn ôl i Drefriw heibio i Lyn Geirionydd ac uwchben Dyffryn Crafnant.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: tua 7.5 milltir / 12 km

Gradd: Cymhedrol, ond hamddenol

Cyfarfod: 9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: Karen Black a Joan Prime

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Views fromm the High Gwydir

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Ar hyd Afon Llugwy

Dydd Gwener 18fed Mai, 2018

Ar hyd Afon Llugwy o Fetws-y-coed i Gapel Curig

I gychwyn byddwn yn dal y bws o Drefriw i Fetws-y-coed (20 munud), wedyn cerdded ar hyd yr afon i Gapel Gurig.  Ar y daith gerdded hon fyddwn ni byth yn bell o Afon Llugwy, a byddwn yn pasio’r Rhaeadr Ewynnol a Thŷ Hyll (sy’n dda am banad bob tro!)

Bydd y daith yn gorffen ym Mhlas y Brenin, lle bydd ‘na gyfle am banad cyn dal ein bws mini yn ôl i Drefriw.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  tua 6.5 milltir / 10.5 km

Gradd:  hawdd/cymhedrol

Cyfarfod:  10.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

(Bydd rhaid i chi brynu tocyn bws, oni bai bod gynnoch chi bas)

Arweinyddion:  Dave Prime a Nigel Thomas

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Llugwy River Ramble

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Sgiliau ar y Bryniau

Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018

Sgiliau ar y Bryniau

Oes gynnoch chi awydd taith gerdded dda, ond ar yr un pryd cyfle i ddatblygu rhywfaint ar eich sgiliau cerdded, e.e. defnyddio cwmpawd, darllen map, cymorth cyntaf sylfaenol, ac ati?

Bydd y daith gerdded hon yn mynd â ni o Drefriw i fyny i ardal hyfryd Crafnant a Geirionydd, ond mi gewch chi fwy allan o hyn na dim ond taith gerdded dda!

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  tua 5 milltir / 8 km

Gradd:  Cymhedrol, hamddenol

Cyfarfod:  11.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Roger Pierce a Ceri Jones

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Hills and Skills

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded ymwybyddiaeth ofalgar

 

Dydd Gwener 18fed Mai, 2018

Taith Gerdded ymwybyddiaeth ofalgar  (prynhawn)

Ymunwch â ni ar gyfer taith gerdded iogig a myfyriol i gysylltu â’r hunan a byd natur. Byddwn yn cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw cyn rhannu ceir i Fetws-y-coed.
Bydd y daith ei hun yn para ryw 2 awr, gan gychwyn ger Pont y Mwynwyr, wedyn awn ni i mewn i’r goedwig ac ymlaen i ymweld â yurt, cyn dychweld i’n man cychwyn a’r ceir yn ôl i Drefriw.

Hyd:  tua 2 awr

Pellter:  tua 2 filltir / 3 km

Gradd:  hawdd, hamddenol

Cyfarfod:  12.30 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i rannu ceir i Fetws-y-coed (4.5 filltir o Drefriw)

Arweinyddion:  Gwen Parri a Pam Boyd

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - A Mindfulness Walk

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded i Fore-godwyr

 

Dydd Sul 20fed Mai, 2018

Cyfle i fwynhau côr y bore bach ar daith gerdded gynnar

Mwynhewch gôr y bore bach o gwmpas ymylon Coedwig Gwydir efo gwylwyr adar lleol. Bydd y daith yn cynnwys coetir a thorlan, a byddwch yn dysgu sut i adnabod adar wrth eu cân.  Cyflymdra hamddenol, ond bydd rhai rhannau byr yn garw ac yn serth, ac efallai bydd hi’n wlyb dan draed mewn mannau.  Gwisgwch esgidiau cerdded, a basai binocwlars yn ddefnyddiol.

Ar ôl y daith bydd diod boeth yn ein disgwyl yn neuadd y pentref, ac byddwn yn ôl mewn digon o amser i chi fynychu taith gerdded arall, os hoffech chi!

Hyd:  2.5 awr

Pelltertua 3 milltir / 5 km

Gradd:  Hawdd/cymedrol, a hamddenol

Cyfarfod:  6.15 y.b. (yn gynnar!) ym mhrif maes parcio Trefriw (LL27 0JH, SH781631) (gyferbyn â’r Felin Ŵlan)

Arweinyddion:    Joan Prime and Alan Young

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Early Bird

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Afonydd, llynnoedd a rhaeadrau

 

Dydd Sul  20fed Mai, 2018

Afonydd, llynnoedd a rhaeadrau

Mae’r daith gerdded hyfryd hon mewn tair rhan: Yn y rhan gyntaf byddwn yn pasio Rhaeadr y Dylwythen Deg wrth adael y pentref cyn cerdded wrth ochr Afon Crafnant ac ar hyd Dyffryn Crafnant, hyd at ei chyffordd efo Afon Geirionydd. Ar ôl hyn mae ‘na ddarn serth byr, heibio i raeadrau a cheunant, wrth i ni ddilyn yr afon fer hon i Lyn Geirionydd (sydd â thoiledau yn ei ben pellaf).

Yn yr ail rhan byddwn yn croesi rhan uchaf Coedwig Gwydir, gan basio cwpl o lynnoedd hardd a golygfeydd gwych, cyn disgyn i Afon Conwy i fyny’r afon i Gastell Gwydir.

Yn y rhan olaf – rhan wastad – byddwn yn cerdded ar hyd glannau Afon Conwy heibio i Lanrwst, wedyn yn ôl i Drefriw ar y Cob. Byddwn yn ôl mewn pryd i fwynhau’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Hyd:  Trwy’r dydd.     Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 10.5 milltir / 17 km

Gradd:  Cymedrol (efo rhan galed fer, a rhan hawdd hir)

Cyfarfod:   9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Tony Ellis a Nigel Thomas

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Rivers, Lakes and Falls

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Gwydir a’r Teulu Wynn

Dydd Sul 20fed Mai, 2018

Gwydir a’r Teulu Wynn

Disgynyddion Brenhinoedd Gwynedd oedd y teulu Wynn o Gastell Gwydir. Yn ymestyn dros 36,000 erw, roedd eu hystâd yn dominyddu bywyd pobl Gogledd Cymru yn yr 16eg ganrif.

Yn ystod y tro hamddenol hwn, ymwelwn â chartref y teulu, Castell Gwydir; Capel Gwydir Uchaf a’i addurniadau hyfryd; y rhês o elusendai diddorol; a mawsolëwm y teulu, Capel Gwydir, yn Llanrwst. Cerddwn hefyd ar hyd y ‘Llwybr Tseiniaidd’ trwy gyfrwng Cei Gwydir, cyn croesi Pont Fawr i ddilyn yr afon yn ôl i Drefriw.

Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4.00 y.p.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 7 milltir / 11 km

Gradd:  Cymhedrol/hawdd, hamddenol – efo llawer o gerdded ar y gwastad.

Cyfarfod:  9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Gill Scheltinga a Cate Bolsover

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - Gwydir Castle & the Wynns

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig

Tro Natur i Deuluoedd

Dydd Sul 20ed Mai, 2018

Tro Natur i Deuluoedd

Mae hon yn daith efo gweithgareddau i’r teulu (er bod croeso i bawb) fydd yn cyfuno gemau/gweithgareddau amgylcheddol efo chwedlau am yr ardal. Byddwn yn cerdded heibio i Raeadr y Dylwythen Deg wrth ddilyn Afon Crafnant i Ddyfryn Crafnant, sydd yn ardal llawn blodau’r gog a hen goedydd.

Ymysg pethau eraill byddwn yn chwilio am minibeasts, a chael helfeydd sborion (scavenger hunts), chwilota am fwyd gwyllt, cofleidio coed, cerdded yn droednoeth, efallai gwneud cysgodfannau, chwarae mig, ac ati, tra’n mwynhau ein hunain. Bydd y gweithgareddau yn dibynnu ar gyfansoddiad demograffig y grŵp a’r tywydd, wrth gwrs.

Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau.

Hyd: tua 5 awr.     Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  3 milltir / km

Gradd:  Hawdd. Fydd y cerdded ddim yn egniol, ac mi fyddwn yn dilyn llwybrau da, gan fwyaf, ond weithiau byddwn yn symud oddi ar y llwybrau i gerdded ar dir mwy garw, felly mae angen esgidiau addas arnoch chi.

Cyfarfod:  10.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinwyr:  Pete Kay and Cat Scheltinga

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2018 - A Family Walk in Nature

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig