Dydd Sadwrn 19eg Mai, 2018
Sgiliau ar y Bryniau
Oes gynnoch chi awydd taith gerdded dda, ond ar yr un pryd cyfle i ddatblygu rhywfaint ar eich sgiliau cerdded, e.e. defnyddio cwmpawd, darllen map, cymorth cyntaf sylfaenol, ac ati?
Bydd y daith gerdded hon yn mynd â ni o Drefriw i fyny i ardal hyfryd Crafnant a Geirionydd, ond mi gewch chi fwy allan o hyn na dim ond taith gerdded dda!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: tua 5 milltir / 8 km
Gradd: Cymhedrol, hamddenol
Cyfarfod: 11.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Roger Pierce a Ceri Jones
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.