Dydd Gwener 18fed Mai, 2018
Ar hyd Afon Llugwy o Fetws-y-coed i Gapel Curig
I gychwyn byddwn yn dal y bws o Drefriw i Fetws-y-coed (20 munud), wedyn cerdded ar hyd yr afon i Gapel Gurig. Ar y daith gerdded hon fyddwn ni byth yn bell o Afon Llugwy, a byddwn yn pasio’r Rhaeadr Ewynnol a Thŷ Hyll (sy’n dda am banad bob tro!)
Bydd y daith yn gorffen ym Mhlas y Brenin, lle bydd ‘na gyfle am banad cyn dal ein bws mini yn ôl i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: tua 6.5 milltir / 10.5 km
Gradd: hawdd/cymhedrol
Cyfarfod: 10.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
(Bydd rhaid i chi brynu tocyn bws, oni bai bod gynnoch chi bas)
Arweinyddion: Dave Prime a Nigel Thomas
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.