Dydd Sul 20fed Mai, 2018
Afonydd, llynnoedd a rhaeadrau
Mae’r daith gerdded hyfryd hon mewn tair rhan: Yn y rhan gyntaf byddwn yn pasio Rhaeadr y Dylwythen Deg wrth adael y pentref cyn cerdded wrth ochr Afon Crafnant ac ar hyd Dyffryn Crafnant, hyd at ei chyffordd efo Afon Geirionydd. Ar ôl hyn mae ‘na ddarn serth byr, heibio i raeadrau a cheunant, wrth i ni ddilyn yr afon fer hon i Lyn Geirionydd (sydd â thoiledau yn ei ben pellaf).
Yn yr ail rhan byddwn yn croesi rhan uchaf Coedwig Gwydir, gan basio cwpl o lynnoedd hardd a golygfeydd gwych, cyn disgyn i Afon Conwy i fyny’r afon i Gastell Gwydir.
Yn y rhan olaf – rhan wastad – byddwn yn cerdded ar hyd glannau Afon Conwy heibio i Lanrwst, wedyn yn ôl i Drefriw ar y Cob. Byddwn yn ôl mewn pryd i fwynhau’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 10.5 milltir / 17 km
Gradd: Cymedrol (efo rhan galed fer, a rhan hawdd hir)
Cyfarfod: 9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Tony Ellis a Nigel Thomas
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.