Contents
Dydd Sadwrn a Dydd Sul 19-20 Mai, 2018
I lawr i’r Môr
2018 ydy Blwyddyn y Môr yng Nghymru, felly byddwn yn dathlu hyn trwy gerdded o Drefriw i’r môr – a dan ni ddim isio brysio, felly mi fyddwn ni’n gwneud hyn mewn dwy ran, dros ddau ddiwrnod.
Ar y diwrnod cyntaf byddwn ni’n cerdded o Drefriw i ardal Pen-y-gaer. Ar ddiwedd y diwrnod mi ddown ni yn ôl yn y bws mini.
Hwn ydy’r diwrnod mwya caled o’r ddau – o bell – sydd yn cychwyn efo’r esgyniad serth i ben Cefn Cyfarwydd, y grib y tu ôl i Drefriw. O hyn ymlaen byddwn yng ngodreon y Carneddau, a byddwn yn ddisgyn i Gwm Cowlyd cyn croesi ysgwydd Moel Eilio i Gwm Eigiau. O fa’na byddwn yn anelu at y bwlch rhwng Pen-y-gaer a Phenygadair.
Ar yr ail ddiwrnod byddwn ni’n dychwelyd ar y bws mini i le fuon ni y diwrnod cynt, wedyn parhau i’r môr yng Nghonwy, yn rhannol ar hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, gan basio Bwlch Sychnant cyn dilyn y llwybr ar hyd Mynydd y Dref a disgyn i lawr i Gonwy. Ac yno gobeithio bydd ‘na amser am banad a hufen iâ ar y cei, os hoffech chi!
Sylwer – Trwy archebu lle rydach chi’n ymrwymo i fynychu ar y ddau ddiwrnod.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd bob dydd.
Pellter: tua 12 milltir + 7.5 milltir / 19 km + 12 km
Gradd: Cymhedrol/Caled. Bydd llawer o’r daith ar lwybrau dros weundir a’r ucheldiroedd. Bydd y diwrnod cyntaf yn llawer mwy heriol ac anghysbell. Cofiwch y medrith hi fod yn oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.
Cyfarfod: Dydd Sadwrn am 9.30 y.b. a dydd Sul am 9.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Colin Devine a Karen Martindale
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.