Contents
Dydd Gwener 18fed Mai, 2018
Golygfeydd o Goedwig Gwydir
Mae hon yn daith gerdded olygfaol, gwych yn rhannau uwch ymylon Coedwig Gwydir, sydd â golygfeydd agored, hyfryd dros y dyffrynnoedd cyfagos, a thraw i fynyddoedd gogledd Eryri.
Byddwn yn mynd yn y bws mini i Wydir Uchaf (dim ond 2 filltir o Drefriw), wedyn bydd ein llwybr yn anelu i fyny at Lyn Parc, sydd â golygfeydd uchel uwchben Dyffryn Conwy, wedyn dros i Nant Bwlch-yr-haearn, lle mae modd (pan fydd hi’n glir) gweld 9 copa dros 3000′. Byddwn yn pasio Llyn Bwlch y gwynt a Llyn Glangors, sydd â’u golygfeydd eu hunain tuag at y mynyddoedd, wedyn yn ôl i Drefriw heibio i Lyn Geirionydd ac uwchben Dyffryn Crafnant.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 7.5 milltir / 12 km
Gradd: Cymhedrol, ond hamddenol
Cyfarfod: 9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Karen Black a Joan Prime
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
(Gan fod y daith hon yn defnyddio’r bws mini, mae’r niferoedd yn gyfynygedig i 12.)
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.