Contents
Dydd Gwener/Sadwrn/Sul 18-20 Mai, 2018
Mae’r Llanw yn Uchel
Disgrifiad: Mae Afon Conwy yn llanwol hyd at Tan Lan, rhwng Trefriw and Llanrwst. Mae’r daith hon yn hollol wastad, ac i’r rhan fwyaf byddwn ar orlifdir yr afon. Bydd ‘na gipolygfeydd o’r hen gei o le cafodd llechi a mwynau eu cludo cyn i’r stêmars ddod â’r ymwelwyr yn eu cannoedd. Byddwn yn dilyn y Cob heibio i Tan Lan i’r bont grog dros yr afon, wedyn croesi i ddilyn y dorlan ar ochr Llanrwst. Bydd cyfle am luniaeth yng nghaffi Tu Hwnt i’r Bont cyn dychwelyd i Drefriw ar ochr hon i’r afon, gan ddilyn llwybr gwahanol.
Hyd: Hanner diwrnod
Pellter: tua 4 milltir / 6.5 km
Gradd: Hawdd a hamddenol, ond gwisgwch esgidiau da achos gall rhannau o’r dorlan fod tipyn yn anwastad dan draed.
Cyfarfod: 1.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Jan Blaszkiewicz a Kim Ellis
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.