Dydd Sul 21 Mai, 2023
Ceffylau Gwyllt
O Drefriw byddwn yn dal y bws 19 i Gonwy (tâl: £3.60, oni bai bod gynnoch chi bas), ac o fan’na byddwn ni’n cerdded ar hyd Mynydd y Dref tuag at Sychnant, sydd yn cynnig golygfeydd arfordirol gwych. Byddwn wedyn yn y mewndir, yn rhannol ar Lwybr Cambria, tuag at Ben-y-Gaer, sydd yn hen gaer o Oes yr Haearn uwchben Dyffryn Conwy, gan basio drwy ardal sy’n llawn meini hir hynafol a siambrau claddu. Yn aml iawn mae merlod mynydd y Carneddau i’w gweld yn yr ardal hon.
Bydd y daith yn gorffen uwchben Tal y bont, o le bydd y minibws yn ein dychwelyd i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 10 milltir / 16 km
Gradd: Cymhedrol. (Mae ‘na gwpl o ddarnau serth, h.y. wrth esgyn Mynydd y Dref, a ger Sychnant). Bydd llawer o’r daith ar lwybrau dros weundir a’r ucheldiroedd. Cofiwch y medrith hi fod yn oer, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.
Amser ymadael: 08:40 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Ken Brassil a Marianne Siddorn
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.