Contents
Dydd Sul 21 Mai, 2023
Adenydd dros Drefriw
Dyma gyfle gwych i gerdded efo Jack Slattery o RSPB Cymru, fydd yn arwain y grŵp trwy’r coedydd uwchben Trefriw, hyd at y rhostiroedd ar Gefn Cyfarwydd, sydd y grib y tu ôl i Drefriw.
Yn y coedydd byddwn ni’n gobeithio cael hyd i’r gwybedwr brithpied (flycatcher), telor y coed (wood warbler), tingoch (redstart) a phibydd y coed (tree pipit) – sydd i gyd yn adar arbennig iawn yng nghoedydd Cymru. I fyny ar y rhostir byddwn ni’n gobeithio gweld y bod tinwyn (hen harrier) a choch y grug (red grouse). Ac heb os nac oni bai bydd ‘na llawer mwy hefyd!
Ar y daith byddwn yn cyrraedd hyd at 500m o uchder (ar y grib); yn y bôn bydd y llwybr yn mynd â ni ar i fyny ar y ffordd allan ac ar i lawr ar y ffordd yn ôl, ond bydd y pês yn hamddenol, ac mi gawn ni olygfeydd da.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6½ milltir (10½ km)
Gradd: Cymedrol efo nifer o ddarnau mwy serth. Cofiwch wisgo esgidiau da (efallai bydd ‘na ambell le corsiog) a chofiwch hefyd y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai.
Amser ymadael: 10:40 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Jack Slattery a Lin Cummins
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.