Contents
Dydd Sul 21 Mai, 2023
Dan Olwg y Wrach
Mae Pen Llithrig y Wrach yn fynydd bach sy’n edrych allan dros Lyn Cowlyd. Byddwn yn dod i nabod y ddau ohonyn nhw, sy wedi’u lleoli yng ngodrau y Carneddau y tu ôl i Drefriw.
I gychwyn byddwn yn cerdded ar lwybrau i fyny Cefn Cyfarwydd, yr allt serth y tu ôl i Drefriw, cyn disgwyn i argau Cowlyd, ym mhen Llyn Cowlyd, sydd yr llyn dyfnaf yn Eryri.
Byddwn wedyn yn cerdded y filltir ar lan y llyn at ei ben deheuol cyn cychwyn i fyny Pen Llithrig y Wrach, o le bydd ‘na olygfeydd gwych tuag at fynyddoedd gogledd Eryri. (Mae’r llun yn dangos Llyn Cowlyd a Phen Llithrig y Wrach.) O ben Llithrig y Wrach byddwn yn disgyn ar ei grib hir tuag at Eigiau, wedyn torri’n ôl i Siglen. O fama bydd y minibws yn ein codi a’n dychwelyn i Drefriw.
Er mai uchder Pen Llithrig y Wrach yw 799m (2621′), yr holl esgyniad ar y daith hon fydd dros 3,500’.
Cofiwch – weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 10 milltir / 16 km
Gradd: Llafurus, mynydd
Amser ymadael: 09:20 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Mike Bolsover a Tony Ellis
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.