Dydd Sul 21 Mai, 2023
‘Parc Life’
O Drefriw byddwn yn cerdded i fyny i Llyn Parc, sydd yn llyn golygfaol rhwng Trefriw a Betws y coed.
Wedi cerdded o Drefriw i ardal Castell Gwydir, byddwn wedyn yn dilyn y llwybr sy’n edrych dros Ddyffryn Conwy i fyny i Lyn Parc. Byddwn yn cerdded ar lan y llyn (sy’n 2/3 milltir o hyd) cyn dychwelyd i Drefriw trwy rai o’r rhannau mwya hyfryd yng Nghoedwig Gwydir. Disgwylwch lwybrau hawddgar a golygfeydd da.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 10 milltir / 16 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol
Amser ymadael: 09:40 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Mat Hancox a Matthew Driver
![]()
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.