Dydd Sul 21 Mai, 2023
Mawredd (Y Tywysog) a Hud (y Wrach)
Dyma ein taith gerdded fynydd mawr eleni! – taith hir a chaled i ben ail fynydd uchaf Cymru.
I gychwyn byddwn ni’n teithio yn y minibws i Gwm Eigiau yng ngodreuon y Carneddau. O fa’na byddwn ni’n cerdded i gopa Carnedd Llywelyn (‘y Tywysog’, 1,064 m / 3,491′, sy ond 21m yn is na’r Wyddfa), cyn dychwelyd trwy Ben yr Helgi Du a Phen Llithrig y Wrach (‘yr hud’, 799 m / 2,621′) i Gwm Cowlyd. O fa’na byddwn yn dal y minibws yn ôl i Drefriw. Os bydd y cymylau yn uchel bydd y golygfeydd yn ardderchog, ond byddwch heb unrhyw lol, mae hon yn daith hir ac anodd efo rhyw 1,100m / 3,700′ o esgyniad.
Dydy’r llwybr hwn ddim yn dilyn llwybrau amlwg bob tro. Sylwer hefyd bod ‘na rannau sydd yn agored, ac mewn cwpl o fannau bydd rhaid defnyddio dwylo.
Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes (gan gynnwys het a menig), ac esgidiau cerdded addas (dim trênyrs).
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 10½ milltir / 16½ km
Gradd: Llafurus, mynydd uchel.
Addasrwydd: Cerddwyr heini a phrofiadol
Amser ymadael: 09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: John Ellis-Jones & Nick Livesey
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.