Contents
Dydd Sul 21 Mai, 2023
Cerdded efo’r Teulu Wynn
Mae teitl y daith hon yn ymwneud â’r teulu Wynn o Gastell Gwydir. Bu Gwydir yn sedd i’r teulu pwerus hwn oedd yn disgynyddion Brenhinoedd Gwynedd, ac yn un o’r teuluoedd mwya pwysig yng Ngogledd Cymru yng nghofnodau’r Tuduriaid a’r Stiwartiaid.
Bydd y daith gerdded hamddenol hon yn un o’n rhai hawsa eleni, heb ddim ond tua 200m (650′) o esgyniad. O Drefriw byddwn yn cymrys y llwybr hyfryd o gwmpas y Cob ac ar lan Afon Conwy ar ein ffordd tuag at Llanrwst a Chastell Gwydir. Mae’r daith hon yn cynnwys mynediad i Gastell Gwydir a’i gerddi, lle bydd cyfle i dreulio digon o amser.
Wedyn byddwn yn ymweld â Chapel Gwydir Uchaf (sydd â thu mewn impresif) a’i drysfa (maze) fach gyfagos. Ar ein ffordd yn ôl i Drefriw byddwn yn ymweld â Chynffon y Gaseg Las (‘Rhaeadr y Parc Mawr’ yn Gymraeg), yn rhaeadr sydd yn dal i gyflenwi dŵr ar gyfer y ffowntens yng Nghastell Gwydir hefyd, a’r dŵr yn llifo mewn camlas fach (leat) dros y dolydd. (Lady Willoughby o Gwydir a roiodd yr enw ar y rhaeadr.)
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 6 milltir / 10 km
Gradd: Hawdd, hamddenol, dim ond ychydig o esgyniad
Amser ymadael: 10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Colin Devine a Dave Tetlow
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.