Category Archives: Fri 19 May

Cymorthin a’r Moelwynion

Dydd Gwener 19 Mai, 2023

Cymorthin a’r Moelwynion

Dan ni ddim wedi cerdded yn ardal ddistaw y Moelwynion o’r blaen. Mae’n ardal brydferth er treftadaeth y diwydiant llechi fu yno gynt; bydd rhan o’n taith yn dilyn Llwybr Llechi Eryri, efo rhan arall yn dilyn Taith Cambria.

Byddwn yn rhannu ceir i deithio i Danygrisiau (ger Blaenau Ffestiniog – 25 munud i ffwrdd, gweler y daith yma) cyn cerdded i fyny i Lyn Cymorthin. Gan basio Chwarel Cwmorthin ar yr ochr arall i’r llyn, byddwn yn esgyn i adfeilion impresif chwarel llechi Rhosydd, sydd yn anghysbell ac yn uchel. O fa’ma byddwn yn cerdded heibio i’r gweithoedd eraill ac i fyny’r llethr gwelltog serth i gopa Moelwyn Mawr (770 m / 2,530 ft) o le mae ‘na olygfeydd gwych o’r Wyddfa i’r gogledd, Cader Idris i’r de, a Bae Ceredigion i’r gorllewin. Ar ein ffordd i lawr byddwn yn croesi Craig Ysgafn cyn esgyn Moelwyn Bach (710 m / 2,330 ft). Wedi dod i lawr wedyn i Argae Stwlan (yn y llun uchod) byddwn yn disgyn ymhellach i’r llyn isaf ar yr hen inclein serth, ac yn ôl i’n ceir yn Nhanygrisiau.

Cofiwch – weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  7 milltir / 11 km

Gradd:  Taith fynydd lafurus, efo rhyw 2500′ (800m) o esgyniad. Sylwch – Mae hon yn daith fynydd difrifol, ac bydd ‘na ychydig o ddarnau byr ‘clambery’, ychydig o ddarnau serth, rhywfaint o dir anwastad, ac ambell le agored. Dylech chi fod â phrofiad mynydd a bod yn ddigon heini am hyn.

Amser ymadael:  09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Tony Ellis ac Idris Bowen

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Dyffryn Lledr

Dydd Gwener 19 Mai, 2023

Dyffryn Lledr

Mae Dyffryn Lledr ac Afon Lledr, â’u rhanau o geunentydd, yn rhedeg o ben Bwlch y Gerddinen (‘Crimea Pass’) i lawr drwy Ddolwyddelan tuag at Fetws y coed. Mae hon yn ardal hyfryd dan ni erioed wedi arwain taith ynddi o’r blaen.

Bydd ein minibws yn mynd â ni i Ddolwyddelan, o le byddwn yn dilyn y dyffryn i lawr i Fetws y coed, byth yn bell o Afon Lledr hyfryd, nag Afon Conwy, sydd yn ymuno â hi cyn cyrraedd Betws.

Wedi cyrraedd Betws, byddwn yn teithio yn ôl i Drefriw yn y minibws.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter: 7 milltir / 11 km

Gradd:  Cymedrol

Amser ymadael:  09:20 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Marianne Siddorn a Maria Denney

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Coedydd, Llynnoedd a Rhostir

Dydd Gwener 19 Mai, 2023

Coedydd, Llynnoedd a Rhostir

Bydd y daith gerdded hon yn ymweld ag amrywiaeth o dirweddau – llechweddau, llynnoedd, tiroedd coediog, coedwigaeth a rhostir – rhwng Trefriw a Chapel Curig. Byddwn yn pasio Llyn Geirionydd ar ein ffordd allan, wedyn ar y pen pella (gweler y llun uchod) gobeithio byddwn yn cael golygfeydd da o Foel Siabod and Phedol Yr Wyddfa. Byddwn yn dychwelyd ar y rhostir islaw Crimpiau, cyn disgyn o’r bwlch i Lyn Crafnant golygfaol, wedyn yn ôl i Drefriw, byth yn bell o Afon Crafnant.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  11 milltir / 17 km

Gradd:  Cymedrol, ond hamddenol

Amser ymadael:  9:40 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Mat Hancox & Matthew Driver

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Dau Gob

Dydd Gwener 19 Mai, 2023

Crwydro’r Ddau Gob

Mae’r rhan fwyaf o’n teithiau cerdded ar ochr Trefriw i Afon Conwy, ond dyma gyfle i gerdded hefyd ar yr ochr arall!

Mae gan Ddyffryn Conwy amddiffyniadau rhag yr afon ar y naill ochr a’r llall iddi – o’r enw ‘cobiau’ – sydd yn cynnig cerdded hydryd – a gwastad! – wrth ochr yr afon. Bydd ein minibws yn mynd â ni i  Faenan, ar draws yr afon i Drefriw, o le byddwn yn cerdded am 2 filltir ar y cob gogleddol hwn i Dan Lan. Byddwn wedyn yn dilyn y lônydd cefn i Lanrwst (y 2 filltir yn y canol – yr unig darn lle mae ‘na esgyn a disgyn), cyn cerdded ar lan yr afon i’r parc wrth Bont Fawr i gael cinio. Wedi cerdded yn ôl i Bont Grog Gower, byddwn yn dilyn y cob deheuol yn ôl i Drefriw – y 2 filltir olaf.

Bydd ‘na ddigon o gerdded hamddenol ar lan yr afon, ac fel arfer bydd ‘na lawer o fywyd gwyllt i’w weld yn agos i’r afon hefyd.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  7 milltir / 11 km

Gradd:  Hawdd a hamddenol i’r rhan fwyaf (ond mae ‘na esgyniad ar y lôn yn y canol o 10m hyd at 100m)

Amser ymadael:  10:10 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Karen Martindale a Jan Blaskiewicz

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Trem o’r Bedd

Dydd Gwener 19 Mai, 2023

Trem o’r Bedd

Ddim yn aml byddwn ni’n cerdded ar yr ochr arall i Ddyffryn Conwy, ond byddwn yn cerdded i fyny i Foel Trefriw, sydd bron i 1,000′ uwchben Betws y coed, un o’r llefydd pellaf o le mae modd gweld Trefriw. Bydd y daith yn rhoi golygfeydd bendigedig dros fynyddoedd gogleddol Eryri.

Byddwn wedyn yn disgyn i’r siambr gladdu neolithig enwog yng Nghapel Garmon. I grŵp o’r enw ‘Cotswold-Severn’ mae’r math hwn o siambr yn perthyn – dyna lle fe’u ceir, fel arfer – felly mae’n ddirgel pam mae’r un hon yn fa’ma.

Byddwn yn teithio i gychwyn ein taith ar gludiant cyhoeddus (y bws 19, tâl: £3.10 oni bai bod gynnoch chi bas), wedyn dychwelyd i Drefriw yn ein minibws.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 7 milltir / 11 km

Gradd:  Cymedrol, efo rhyw 1,000′ o esgyniad.

Mae’n serth i gychwyn, wedyn cymedrol. Mae ‘na ambell nant i’w chroeso, ac ambell ardal gorslyd, felly gwisgwch esgidiau addas. Efallai bydd ‘na wartheg mewn rhai caeau.

Amser ymadael:  10:25 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal y bus 10:42 tuag at Fetws y coed.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Cate Bolsover a Mike Bolsover

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Taith Gerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar

Dydd Gwener 19 Mai, 2023

Taith Gerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar  (prynhawn)

Ymunwch â ni ar gyfer taith gerdded fyfyriol a meddylgar i gysylltu â’r hunan a byd natur.

Byddwn ni’n cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf chapel (2 filltir o Drefriw – gweler yma).

Taith gerdded fyfyriol fer (1 awr) fydd hon o Gapel Gwydir Uchaf ar lwybrau ar ymylon Coedwig Gwydir.  Bydd ‘na sesiwn fer o fyfyrdod cyn ac ar ôl y daith hon. Wedyn byddwn ni’n dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.

Er mai’r daith gerdded hon yw’r fyrra yn yr Ŵyl, medrai ei heffaith fod yn bwerus.

Hyd:  2 awr

Pellter:  Tua 1.5 filltir / 2 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol (efo rhywfaint o esgyniad a disgyniad)

Amser ymadael:  1:30 y.p. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Kate Hamilton-Hunter a  Lin Cummins