Contents
Dydd Gwener 19 Mai, 2023
Cymorthin a’r Moelwynion
Dan ni ddim wedi cerdded yn ardal ddistaw y Moelwynion o’r blaen. Mae’n ardal brydferth er treftadaeth y diwydiant llechi fu yno gynt; bydd rhan o’n taith yn dilyn Llwybr Llechi Eryri, efo rhan arall yn dilyn Taith Cambria.
Byddwn yn rhannu ceir i deithio i Danygrisiau (ger Blaenau Ffestiniog – 25 munud i ffwrdd, gweler y daith yma) cyn cerdded i fyny i Lyn Cymorthin. Gan basio Chwarel Cwmorthin ar yr ochr arall i’r llyn, byddwn yn esgyn i adfeilion impresif chwarel llechi Rhosydd, sydd yn anghysbell ac yn uchel. O fa’ma byddwn yn cerdded heibio i’r gweithoedd eraill ac i fyny’r llethr gwelltog serth i gopa Moelwyn Mawr (770 m / 2,530 ft) o le mae ‘na olygfeydd gwych o’r Wyddfa i’r gogledd, Cader Idris i’r de, a Bae Ceredigion i’r gorllewin. Ar ein ffordd i lawr byddwn yn croesi Craig Ysgafn cyn esgyn Moelwyn Bach (710 m / 2,330 ft). Wedi dod i lawr wedyn i Argae Stwlan (yn y llun uchod) byddwn yn disgyn ymhellach i’r llyn isaf ar yr hen inclein serth, ac yn ôl i’n ceir yn Nhanygrisiau.
Cofiwch – weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 7 milltir / 11 km
Gradd: Taith fynydd lafurus, efo rhyw 2500′ (800m) o esgyniad. Sylwch – Mae hon yn daith fynydd difrifol, ac bydd ‘na ychydig o ddarnau byr ‘clambery’, ychydig o ddarnau serth, rhywfaint o dir anwastad, ac ambell le agored. Dylech chi fod â phrofiad mynydd a bod yn ddigon heini am hyn.
Amser ymadael: 09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Tony Ellis ac Idris Bowen
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.