Dydd Gwener 19 Mai, 2023
Taith Gerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar (prynhawn)
Byddwn ni’n cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf chapel (2 filltir o Drefriw – gweler yma).
Taith gerdded fyfyriol fer (1 awr) fydd hon o Gapel Gwydir Uchaf ar lwybrau ar ymylon Coedwig Gwydir. Bydd ‘na sesiwn fer o fyfyrdod cyn ac ar ôl y daith hon. Wedyn byddwn ni’n dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.
Er mai’r daith gerdded hon yw’r fyrra yn yr Ŵyl, medrai ei heffaith fod yn bwerus.
Hyd: 2 awr
Pellter: Tua 1.5 filltir / 2 km
Gradd: Hawdd, hamddenol (efo rhywfaint o esgyniad a disgyniad)
Amser ymadael: 1:30 y.p. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Kate Hamilton-Hunter a Lin Cummins
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.