Trychineb Dolgarrog

Dydd Sul 22ain Mai, 2022

Trychineb Dolgarrog

Bydd y daith hon yn gadael Trefriw trwy gerdded i fyny Cefn Cyfarwydd, y cefn tu ôl i’r pentref, i Gwm Cowlyd. Bydd y daith yn serth i gychwyn, ond mae’n cynnig golygfeydd 360° o Eryri a’r arfordir. Byddwn yn croesi o flaen argae Cowlyd, wedyn dros ysgwydd Moel Eilio i Gwm Eigiau a Llyn Eigiau a’i argau. Achoswyd y trychineb yn Nolgarrog yn 1925 pan dorrodd yr argae hwn. Byddwn yn dilyn cwrs y llifddyfroedd ar hyd hen dramffordd Eigiau yn ôl i Ddolgarrog, heibio i Gronfa Coedty, uwchben y pentref (lle y clywir y gog yn aml), cyn disgyn i Ddolgarrog i ymweld â’r garreg goffa yno. Byddwn yn dychwelyd i Drefriw ar ein bws mini.

Cofiwch mai weithiau mae’n oer yng ngodreuon y Carneddau, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: tua 10.5 milltir / 17 km

Gradd: Cymhedrol/caled, efo rhai darnau mwy serth, yn enwedig ar y dechrau lle mae ‘na ryw 800 o droedfeddi o esgyniad yn y 3/4 milltir gyntaf.

Amser ymadael: 10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion:  Idris Bowen a John Ellis-Jones
(Mae Idris a John ill dau yn siaradwyr Cymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig