Contents
Dydd Sul 22ain Mai, 2022
Y Teulu ar Sgowt
Mae hon yn daith efo gweithgareddau i’r teulu (er bod croeso mawr i bawb). Byddwn yn cerdded heibio i Raeadr y Dylwythen Deg wrth ddilyn Afon Crafnant i Ddyfryn Crafnant, sydd yn ardal llawn blodau’r gog a hen goedydd.
Ymysg pethau eraill byddwn yn gwneud helfeydd sborion (scavenger hunts), chwilota am fwyd gwyllt (eich cyfle i fwynhau ramsons a pignut pie!), cofleidio ambell i goeden, chwarae gemau amgylcheddol, ac ati, tra’n mwynhau ein hunain. Bydd y gweithgareddau yn dibynnu ar gyfansoddiad demograffig y grŵp a’r tywydd, wrth reswm.
Hyd: tua 5 awr. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 3 milltir / 5 km
Gradd: Hawdd. Fydd y cerdded ddim yn egniol, ac mi fyddwn yn dilyn llwybrau da, gan fwyaf, ond weithiau byddwn yn symud oddi ar y llwybrau i gerdded ar dir mwy garw, felly mae angen esgidiau addas arnoch chi.
Amser ymadael: 11:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)
Arweinwyr: Pete Kay a Marianne Siddorn
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.