Dydd Gwener 20fed Mai, 2022
Taith Gerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar (prynhawn)
Byddwn ni’n cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf chapel (2 filltir o Drefriw – gweler yma).
Taith gerdded fyfyriol fer (1 awr) fydd hon o Gapel Gwydir Uchaf ar lwybray ar ymylon Coedwig Gwydir. Bydd ‘na sesiwn fer o fyfyrdod cyn ac ar ôl y daith hon. Wedyn byddwn ni’n dychwelyd i Drefriw yn yr un ceir.
Er mai’r daith gerdded hon yw’r fyrra yn yr Ŵyl, medrai ei heffaith fod yn bwerus.
Hyd: 2 awr
Pellter: Tua 1.5 filltir / 2 km
Gradd: Hawdd, hamddenol (efo rhywfaint o esgyniad a disgyniad)
Amser ymadael: 1:30 y.p. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf (2 filltir o Drefriw)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)
Arweinyddion: Gwen Parri a Lin Cummins
(Mae Gwen yn siaradwraig Gymraeg.)
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.