Gwlad y Gog

Dydd Sul 22ain Mai, 2022

Gwlad y Gog

Clywir y gog trwy gyfan mis Mai yn ardal hardd y daith gerdded hon. Bydd y bws mini yn ein cludo i Lyn Crafnant, o le byddwn yn cerdded ar lan y llyn, wedyn dros y bwlch tuag at Gapel Curig (lle mae golygfeydd gwych tuag at Foel Siabod a’r Wyddfa). Wedyn byddwn yn cerdded mewn cylch yn ôl, ar lwybrau llydan, gan basio Llyn Bychan cyn cyrraedd Llyn Geirionydd (lle mae ‘na doiledau), a dychwelyd i Drefriw trwy’r dolydd ar lan Afon Crafnant.

Dan ni ddim yn medru gwarantu clywed y gog, wrth reswm (er y clywyd llawer fel arfer), ond mae hon yn daith gerdded wych beth bynnag.

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 10 milltir / 16 km

Gradd:  Cymhedrol, bron yn galed oherwydd ei hyd, ond hamddenol

Amser ymadael:  10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion:  Mat Hancox a Colin Devine

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig