Mwyngloddiau a Mwynau

Dydd Sul 22ain Mai, 2022

Mwyngloddiau a Mwynau

Bu Coedwig Gwydir yn gartref i lawer o fwyngloddiau llechi a metel ar un adeg. Byddwn yn pasio rhyw ddeg o weithfeydd, rhai mawr a rhai bach, wrth i ni archwilio’r ardal hyfryd hon ar stepan drws Trefriw .

Byddwn yn cerdded gyntaf i fyny’r lôn serth i Lanrhychwyn, wedyn heibio i’r hen geudyllau llechi ar ymyl Coedwig Gwydir. Byddwn wedyn yn disgyn i Waith Hafna cyn mynd ymlaen i Waith Parc a Gwaith Vale of Conwy, wedyn i Waith Llanrwst sydd yn Nant Bwlch-yr-haearn.  Ar ein ffordd yn ôl byddwn yn pasio llynnoedd hyfryd cyn mwynhau’r golygfeydd o’r mynyddoedd ger Gwaith Pandora. Bu’r gwaith hwn yn anfon ei fwyn ar hyd yr hen dramffordd i Klondyke, a fydd ar ein ffordd yn ôl i Drefriw uwchben Dyffryn Crafnant.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: 10 milltir / 16 km

Gradd:  Cymedrol

Amser ymadael:  9:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion:  Tony Ellis a Jan Blaskiewicz
(Mae Tony yn siaradwr Cymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig