Contents
Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022
Crimpiau
Mae Crimpiau (sy’n golygu hard sharp edge; ridge, spur; ledge) wedi’i leoli rhwng Capel Curig a Llyn Crafnant, ac mae’n llecyn manteisiol er ei uwchder o 475m / 1,558 ft yn unig. Mae ffotograffydd Nick Livesey yn deud yn ei lyfr ‘Photographing the Snowdonia Mountains’, “Being little more than a minor incident on a long knobbly ridge, lowly Crimpiau harbours a secret that few would suspect from below”. Mae eraill wedi deud pethau tebyg.
Byddwn ni’n mynd yn y bws mini o Drefriw i Gapel Curig, wedyn cerdded yn ôl, gan wneud gwyriad bach i esgyn Crimpiau ei hun. Yn ogystal â Crimpiau, mae’n daith ardderchog efo golygfeydd hyfryd o’r dechrau i’r diwedd.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 9 milltir / 14 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol
Amser ymadael: 9:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)
Arweinwyr: Keith Hulse a Matthew Driver
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.