Contents
Dydd Gwener 20fed Mai, 2022
Cerdded a Chyfarth! – Taith gerdded i gŵn
Fel arfer dan ni ddim yn medru caniatau i gŵn ddod ar ein teithiau cerdded, am nifer o resymau, ond eleni byddwn ni’n trefnu taith gerdded yn unswydd i gerddwyr efo’u cŵn!
Fel arfer byddwn ni’n cyfarfod a chofrestru yn Nhrefriw, ond ar gyfer y daith hon mi fyddwn ni’n cyfarfod ym Mainc Lifio (‘Sawbench’) – y maes parcio ar gyfer trwyddau beics Gwydir Mawr a Bach – sydd ar ymyl Coedwig Gwydir a dim ond 5 munud o Drefriw mewn car (gweler y lleoliad efo cyfeiriadau o Drefriw yma).
O fa’na, byddwn ni’n cerdded ar lwybrau da yn y goedwig lle na fydd ‘na ddefaid nac adar yn nythu ar y ddaear.
Sylwer: Hoffen ni i chi gadw eich cŵn ar dennyn, o.g.y.dd.
Hyd: Tua 2 awr.
Pellter: Tua 4 milltir / 6.5 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol
Amser ymadael: 2:00 y.p. o Maes Parcio Mainc Lifio (Sawbench) (SH790 609) ger Castell Gwydir (wedi’i farcio ar y map fel ‘Gwydir Mawr/Bach’, gan mai dyma’r maes parcio ar gyfer y Trywyddau Beics). SYLWER nad ydy’r daith hon yn cyfarfod yn Neuadd y Pentref.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd ar ôl eich taith os hoffech chi ddychwelyd i Drefriw. (Mwy yma.)
Arweinwyr: Jan Blaskiewicz (efo Indie, ei chi) a Val Pontin
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.