Afonydd, Llynnoedd a Rhaeadrau

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Afonydd, Llynnoedd a Rhaeadrau

Mae’r daith gerdded hyfryd hon mewn tair rhan:
Yn y rhan gyntaf byddwn yn pasio Rhaeadr y Tylwyth Teg wrth adael y pentref cyn cerdded wrth ochr Afon Crafnant ac ar hyd Dyffryn Crafnant, hyd at ei chyffordd efo Afon Geirionydd. Ar ôl hyn mae ‘na ddarn serth byr, heibio i raeadrau a cheunant, wrth i ni ddilyn yr afon fer hon i Lyn Geirionydd (sydd â thoiledau yn ei ben pellaf).
Yn yr ail rhan byddwn yn croesi rhan uchaf Coedwig Gwydir, gan basio cwpl o lynnoedd hardd a golygfeydd gwych, cyn disgyn i Afon Conwy i fyny’r afon o Gastell Gwydir.
Os bydd amser yn caniatau, hefyd byddwn ni’n gwneud gwyriad byr i weld Rhaeadr y Gaseg Las.
Yn y rhan olaf – rhan wastad – byddwn yn cerdded ar hyd glannau Afon Conwy heibio i Lanrwst, wedyn yn ôl i Drefriw ar y Cob.

Hyd:  Trwy’r dydd.     Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  Tua 10.5 milltir / 17 km

Gradd:  Cymedrol (efo rhan galed fer, a rhan hawdd, hir)

Amser ymadael:   9:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion:  Brian Watson and Liz Burnside

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig