Creigiau Poethion a Cherrig Anferth

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Creigiau Poethion a Cherrig Anferth

Byddwn ni’n dal y bws mini i gefn Rowen. Mae hon yn gylchdaith, efo esgyn i’r rhostir agored, llwybr creigiog i grib Tal y Fan, yna i lawr i Fwlch y Ddeufaen.

Dyma ni yn cyrraedd yr A55 gwreiddiol, sef y ffordd gynhanes – Rufeinig sydd yn disgyn yn raddol i’r Afon Conwy.

Mae’r daith yn croesi tirwedd o greigiau igneaidd, llefydd sanctaidd a chyfundrefn o gaeau: yn gyfoeth o elfenau sydd yn cofnodi pwysau a threigliad amser dros 450 o filiynau o flynyddoedd ymlaen i fyd yr amaethwyr cynnar.

Bydd y darn olaf ar y tarmac, can dal y bws mini o Rowen yn ôl i Drefriw.

Cofiwch – weithiau mae’n oer yng ngodreuon y Carneddau, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, rhannau byrion yn serth, ond yn hamddenol

Amser ymadael:  10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Ken Brassil ac Idris Bowen
(Mae Ken ac Idris ill dau yn siaradwyr Cymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig