Cerdded Terfynau’r Goedwig

Dydd Sul 19eg Mai, 2019

Cerdded Terfynau’r Goedwig

Rhwng Trefriw a Betws-y-coed mae Coedwig Gwydir.  Yn aml byddwn ni’n trefnu teithiau cerdded yn y goedwig (fel y byddwn ni’n ei wneud eleni), ond mae’r daith hon yn mynd â ni o’i chwmpas.

I gychwyn byddwn yn gadael Trefriw trwy Goed yr Allt, wedyn pasio rhaeadr Cynffon y Gaseg Las ar ein ffordd i ardal Castell Gwydir. Mae’r llwybr i fyny at Lyn Parc yn cynnig golygfeydd gwych dros Ddyffryn Conwy. Byddwn wedyn yn disgyn i Fetws-y-coed, lle byddwn ni’n dilyn rhan o Lwybr Llechi Eryri am ryw 3 milltir, gan ddilyn Afon Llugwy heibio i’r Rhaedr Ewynnol tuag at Tŷ Hyll.  Byddwn wedyn yn troi oddi wrth yr afon tuag at Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd ac yn ôl i Drefriw.  Y daith olygfaol hon ydy’r un hira yn ein Gŵyl Gerdded eleni.
Byddwn yn pasio toiledau ym Metws-y-coed (5m) a Chrafnant (12m)

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 15 milltir / 24 km

Gradd:  Cymedrol (ond llafurus oherwydd ei hyd), efo cryn dipyn o esgyniad a disgyniad (rhyw 3,500′ o esgyniad i gyd), ac mae’n hir.

Cyfarfod:  8:30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:   Tony Ellis a Paul Newell

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig