Cwmorthin a’r Moelwynion

Dydd Sadwrn 16eg Mai, 2019

Cwmorthin a’r Moelwynion

Byddwn ni’n teithio yn ein bws mini i Danygrisiau (ger Blaenau Ffestiniog) i gerdded i fyny i Gwm Cwmorthin a’i lyn hyfryd. Wedi pasio Chwarel Cwmorthin, byddwn wedyn yn cerdded i fyny i Chwarel Rhosydd, wedyn heibio i’r Twll Mawr i ben Moel yr Hydd (648m / 2,126′) sydd yn cynnig golygfeydd gwych o’r Moelwynion a llawer o gopâu Eryri. Wedi disgyn i Chwarel Wrysgyn a’i dwnel ac inclein diddorol, byddwn yn dychwelyd i Danygrisiau. Bydd ‘na amser am banad yn y caffi tra’n aros am y bws mini yn ôl i Drefriw.

Weithiau mae’n oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Dewch â dillad cynnes/wrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  Tua 7 milltir / 11 km

Gradd:  Cymedrol/llafurus

Cyfarfod:  9:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:    Bernard Owen a Nigel Thomas

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig