Bync-barnio yn Nyffryn Mymbyr – taith ddau-ddiwrnod

Dydd Sadwrn 16eg a Dydd Sul 17eg Mai, 2020

Bync-barnio yn Nyffryn Mymbyr – taith ddau ddiwrnod

Mae hon yn daith ddau ddiwrnod. Dyma’r trydydd tro i ni wneud taith ddau ddiwrnod, a dan ni wrth ein boddau efo’r elfen gymdeithasol a’r ‘bonding’ sydd yn datblygu dros gyfnod hirach. Ond eleni byddwn ni’n gwneud rhywbeth gwahanol – yn lle dychwelyd i Drefriw ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, byddwn ni’n aros dros nos mewn tŷ bync!

Ar y diwrnod cyntaf byddwn ni’n cerdded o Drefriw i Gapel Curig (efo diod ym Mhlas y Brenin wrth basio os bydd pobl isio) wedyn ymlaen i ben pella llynnoedd Dyffryn Mymbyr, sydd yn enwog am ei olygfeydd gwych o Bedol yr Wyddfa.

Byddwn yn aros dros nos yno, yn Nhŷ Bync Garth. Mae’r tŷ bync yn weddol syml, efo cyfleusterau coginio ac ardal eistedd/bwyta i 12 o bobl. Byddwn yn cysgu mewn ‘dormitory’ sengl (i’r ddwy ryw) sydd â matresi cyfforddus. (Sylwer – Mae croeso i chi ddod â’ch pabell eich hun i gysgu ynddi, os bydd hi’n well gynnych; cludwn ni bob dim i chi.)

Ar yr ail ddiwrnod byddwn ni’n dychwelyd i Drefriw ar lwybr hollol wahanol, mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Ddylai fod ‘na olygfeydd da ar y ddau ddiwrnod os bydd y cymylau’n uchel.

Bwyd, diod a llety:  Ar y nos Sadwrn mae croesi i chi ddod ag eich bwyd eich hun, neu – am gyfraniad ariannol bach – cael eich trin i bryd o fwyd syml wedi’i baratoi gan eich arweinyddion. (Os oes gynnych anghenion dietegol, unwaith y byddwch chi wedi seinio i fyny, byddwn mewn cysylltiad yn nes at y dyddiad i ofyn am hyn. Yn y cyfamser, os oes gynnych unrhyw gwestiynau, croeso i chi gysylltu â ni.)

Darperir te a choffi tra byddwn yn y tŷ bync. Dewch â diodydd eraill (yn feddal neu fel arall!) ar gyfer y min nos a’r daith, ac ar gyfer eich brecwast a phecyn bwyd (ar y ddau ddiwrnod).

Bydd rhaid i chi ddod hefyd â bag cysgu.

Trefniadau:   Byddwch chi’n medru cerdded efo ‘day sack’.  Byddwch chi’n medru gadael eitemau fel bagiau cysgu, bwyd/diod ychwanegol (i ginio nos a brecwast), dillad, ac ati, efo ni yn Neadd y Pentref, ac mi awn ni â phob dim i’r tŷ bync ar eich cyfer.  Yn yr un modd, ar y dydd Sul, byddwch chi’n medru cerdded efo ‘day sack’, ac mi ddown ni â phob dim arall yn ôl i Drefriw i chi.

Sylwer – Trwy archebu lle rydach chi’n ymrwymo i fynychu ar y ddau ddiwrnod. Hefyd, mae’r daith gerdded hon yn cario ffi o £12 i dalu am y tŷ bync; telir hwn cyn cychwyn ar y dydd Sadwrn (cerdyn neu bres parod).

Hyd:  Ddau ddiwrnod llawn

Pellter:  Tua 9.5 milltir (15 km) + 9.5 milltir (15 km)

Gradd:  Cymhedrol

Cyfarfod:  Dydd Sadwrn am 9:30 y.b.  yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.

Arweinyddion:  Brian Watson a Liz Burnside

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod. Sylwer bod llefydd yn gyfyngedig i 10 o bobl.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig