Y Glyderau

Dydd Sadurn 18 Mai, 2024

Y Glyderau

Taith gerdded gron o benygwryd i fyny’r Glyderau yw hon.

Mae hon yn daith gerdded lafurus lle byddwn yn ymweld â’r Glyderau, yn cynnwys Glyder Fach (994 m / 3,261 tr), Glyder Fawr (1,001 m / 3,284 tr), gan basio Y Gwyliwr (the Cantilever) a Chastell y Gwynt.

(Mae’r llun, a dynnwyd o Glyder Fach, yn dangos Castell y Gwynt, efo Glyder Fawr yn y pellter. Hefyd y y llun mae’r Wyddfa.)

Bydd ein minibws yn mynd â ni i Benygwryd, o le byddwn yn cerdded i Ben y Pass (ar droed Yr Wyddfa), i wedyn dilyn y llwybr serth i fyny i Glyder Fawr. Byddwn wedyn yn dilyn y grib lydan i Glyder Fach cyn disgyn ar Lwybr y Mwynwyr i’n lle cychwyn ym Mhenygwryd.

Ar wahân i’r 2,800 tr o esgyniad, bydd ‘na dipyn bach o glambro dros greigiau.

Hyd: Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  7 milltir / 11 km

Gradd:  Taith fynydd galed efo 2,800 tr. o esgyniad

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Addasrwydd:  Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a thir garw, a bod yn ddigon heini ar gyfer y daith hon.

Cofiwch – Weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.

Amser ymadael:  09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Keith Hulse a Nick Livesey


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig