Category Archives: Sat 18 May

Y Glyderau

Dydd Sadurn 18 Mai, 2024

Y Glyderau

Taith gerdded gron o benygwryd i fyny’r Glyderau yw hon.

Mae hon yn daith gerdded lafurus lle byddwn yn ymweld â’r Glyderau, yn cynnwys Glyder Fach (994 m / 3,261 tr), Glyder Fawr (1,001 m / 3,284 tr), gan basio Y Gwyliwr (the Cantilever) a Chastell y Gwynt.

(Mae’r llun, a dynnwyd o Glyder Fach, yn dangos Castell y Gwynt, efo Glyder Fawr yn y pellter. Hefyd y y llun mae’r Wyddfa.)

Bydd ein minibws yn mynd â ni i Benygwryd, o le byddwn yn cerdded i Ben y Pass (ar droed Yr Wyddfa), i wedyn dilyn y llwybr serth i fyny i Glyder Fawr. Byddwn wedyn yn dilyn y grib lydan i Glyder Fach cyn disgyn ar Lwybr y Mwynwyr i’n lle cychwyn ym Mhenygwryd.

Ar wahân i’r 2,800 tr o esgyniad, bydd ‘na dipyn bach o glambro dros greigiau.

Hyd: Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  7 milltir / 11 km

Gradd:  Taith fynydd galed efo 2,800 tr. o esgyniad

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Addasrwydd:  Dylech chi fod â phrofiad o’r mynyddoedd a thir garw, a bod yn ddigon heini ar gyfer y daith hon.

Cofiwch – Weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.

Amser ymadael:  09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Keith Hulse a Nick Livesey

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Yn y seithfed nef

Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024

Yn y seithfed nef

Taith gerdded gron o Drefriw i ymweld â saith o’r llynnoedd gorau yn yr ardal yw hon, efo golygfeydd gwych trwy’r dydd.

I gychwyn byddwn yn anelu am Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd (lle mae ‘na doiledau), wedyn ymlaen at Lyn Bod Bach a Llyn Bodgynydd. Ar y ffordd yn ôl i Drefriw (trwy Lanrhychwyn a’i hen eglwys) byddwn yn pasio Llyn Bwlch y Gwynt a Llyn Glangors (yn y llun), dau lyn hyfryd sydd â golygfeydd tuag at y  mynyddoedd.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  11 milltir / 18 km

Gradd:  Cymedrol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  09:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Mat Hancox a Matthew Driver

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Agog / y gog!

Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024

Agog / y gog!

Taith gerdded o Drefriw i Gapel Curig yw hon. Gwlâd y gog yw hon, felly dan ni’n disgwyl clywed y gog..

Bydd y daith gerdded hyfryd hon yn mynd â ni trwy bob math o dirwedd: llethrau, llynnoedd, coed a rhostir. Wedi pasio Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant byddwn yn esgyn Crimpiau, bryn efo golygfeydd i bob cyfeiriad, ac un o’r golygfannau gorau yn Eryri. Wrth agosáu at Gapel Curig, gwelwn ni Moel Siabod, Yr Wyddfa a Phedol yr Wyddfa.

Byddwn yn dychwelyd i Drefriw yn ein minibws.

Hyd: Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  8 milltir / 13km

Gradd:  Cymedrol, ond yn serth i fyny Crimpiau ei hun

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  09:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Nick Denney a Lucy Flood

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Trwy’r coed

Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024

Trwy’r coed – fflora a ffawna Coedwig Gwydir

Bydd y daith gerdded hon, fydd yn mynd â ni uwchben Dyffryn Conwy a thrwy Goedwig Gwydir, yn cychwyn yn Nhrefriw a gorffen ym Metws y coed. Bydd ein diwrnod yn llawn golygfeydd gwych, ac hefyd gwelwn raeadr drawiadol, llyn hardd ac olion diwydiant cloddio’r ardal. Arweinir y daith hon gan ddau o bobl sydd yn gwybod llawer am natur a fydd yn eich cyflwyno i fflora a ffawna ac hanes yr ardal unigryw hon ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Croeso i chi ddod â binocwlars a chwyddwydr.

Sylwch – bydd y llwybr ychydig yn arw a serth mewn mannau.

Byddwn yn dychwelyd i Drefriw ar ein minibws.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, hamddenol, llawer o stopio

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  9:45 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Maria Denney a Pete Kay

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Llwybr Huw Tom

Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024

Llwybr Huw Tom

Taith gerdded o Rowen dros y topiau i Benmaenmawr yw hon.

Bu Huw Thomas Edwards yn wleidydd a oedd yn gweithio yn Chwarel Graiglwyd quarry ym Mhenmaenmawr. Yn Rowen y gafodd o’i eni, ac byddai’n cerrded rhwng y ddau lle bob dydd. Mae ‘Taith Gerdded Huw Tom’ bellach yn llwybr swyddogol sydd â golygfeydd gwych dros Ddyffryn Conwy, y Gogarth a Bae Lerpwl.

Mae modd lawrlwytho pdf o’r llwybr yma.

Byddwn yn teithio i Rowen yn ein minibws. Wedi cyrraedd Penmaenmawr, byddwn yn ymweld ag amgueddfa Penmaenmawr cyn dychwelyn i Drefriw ym minibws trydanol Prosiect y Carneddau.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Cymedrol, efo darnau mwy serth a garw.  Dewch â dillad cynnes a sgidiau da.

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Tanya Scheltinga a Colin Devine

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Blodau’r gog a chacen

Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024

Bloadau’r gog a chacen

Taith gerdded gron o Drefriw i Lyn Crafnant a’i gaffi yw hon.

Ymunwch â ni am daith sydd yn denu llawer o ymwelwyr i Drefriw – y gylchdaith glasurol o Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd.  O Drefriw byddwn yn esgyn heibio i Raeadr y Tylwyth Teg ac ymlaen i ymylon Coedwg Gwydir.  Soniwyd am y Goedwig mewn llenyddiaeth dros 500 can mlynedd yn ôl, ac yn bendant byddwn yn gweld peth o’i hanes, gan basio hen weithfeydd a Chofeb Taliesin.

Mae’r golyfeydd o’r ddau lyn yn odidog, ac bydd ‘na ddigon o gyfle i siarad efo’ch arweinwyr am hanes a chwedlau’r ardal.  Ar ôl gorffen ein cylchdaith o’r ddau lyn, byddwn yn ddychweld i Drefriw, ac os bydd y tymor yn caniatau, byddwn yn ymweld â llechwedd llawn clychau’r gog ar ein ffordd yn ôl.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Hawdd/cymedrol, hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Liz Burnside a Brian Watson

Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig

Fflat owt!

Dydd Sadwrn 18 Mai, 2024

Fflat owt!

Taith gerdded gron (ffigiwr wyth), wastad o Drefriw i ardal Llanrwst (ac yn ôl) yw hon.

Y daith gerdded hon yw’r un wastataf yn ein gŵyl gerdded – ond am ½ milltir mae’n weddol wastad.

Am y 3 milltir gyntaf byddwn yn cerdded wrth ymyl Afon i’r ochr arall i Lanrwst, cyn mynd i ymweld â hen gapel Gwydir Uchaf. O fama byddwn yn dychweld i Bont Fawr, pont enwog Llanrwst, gan basio caffi Tu Hwnt i’r Bont (sy’n gwerthu hufen iâ!) cyn dychweld i Drefriw ar lwybr arall.

Hyd:  Trwy’r dydd.  Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  6 milltir / 10 km

Gradd:  Hawdd, hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Clive Noble a Bernard Owen