Côr y bore bach

Dydd Sul 19 Mai, 2024

Côr y bore bach

Mwynhewch gôr y bore bach ger Trefriw efo gwylwyr adar lleol. Bydd y daith yn cynnwys coetir a thorlan, a byddwch yn dysgu sut i adnabod adar wrth eu cân.  Cyflymdra hamddenol, ond bydd rhai rhannau byr yn fwy serth, ac efallai bydd hi’n wlyb dan draed mewn mannau.  Gwisgwch esgidiau cerdded addas, a basai binocwlars yn ddefnyddiol.

Ar ôl y daith bydd diod boeth a biscedi yn ein disgwyl yn neuadd y pentref, a byddwn yn ôl mewn digon o amser i chi fynychu taith gerdded arall, os hoffech chi!

Hyd:  Hyd at 4 awr

Pellter:  Hyd at 5 milltir

Gradd:  Hawdd, hamddenol

Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!

Amser ymadael:  06:00 y.b. o’r prif maes parcio yn Nhrefriw (LL27 0JH, SH781631) gyferbyn â’r felin wlân.
D.S.  Mae’r taith gerdded hon yn cyfarfod ym maes parcio Gower, ddim yn neuadd y pentref.

Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.)  Croeso i chi aros a chymdeithasu.

Arweinwyr:  Shaun De Clancy a Lin Cummins


Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.


Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.


Yn ôl i’r brig