Deg Llyn

Dydd Gwener 20fed Mai, 2022

Deg Llyn

Diwrnod llawn fydd yn mynd â ni i Goedwig Gwydir er mwyn ymweld â 10 llyn sydd yn yr ardal.

Y daith gerdded hon ydy’r un hiraf yn yr Ŵyl Gerdded eleni.

Gan gychwyn a gorffen efo Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant, y llynnoedd mwyaf adnabyddus yn yr ardal, bydd y daith hir hon yn ymweld â 10 llyn yng Nghoedwig Gwydir.  Mae gan lawer ohonynt gysylltiad efo mwyngloddiau metel yr ardal.  Mae’r llwybrau hefyd yn pasio trwy rannau uchel o’r goedwig sydd â golygfeydd gwych o’r mynyddoedd pan fydd y cymylau’n uchel.  Byddwn yn cerdded ar gyflymdra hamddenol, ac yn defnyddio llawer o lwybrau da yn y goedwig.  Gradd y daith ydy “Cymedrol / Caled” dim ond oherwydd ei hyd. Byddwn yn pasio toiledau ar ôl 2½ milltir, 10½ milltir a 12½ milltir.

Gellir lawrlwytho .pdf o’r daith gerdded yma.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: 15 milltir / 24 km

Gradd: Cymedrol/Caled – ac yn hir

Amser ymadael: 9.15 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinyddion: Tony Ellis a Nigel Thomas
(Mae Tony yn siaradwr Cymraeg.)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig