Contents
Dydd Gwener 20fed Mai, 2022
Drysau Cysegredig
Taith gerdded hyfryd o Drefriw ydy hon fydd yn ymweld â 3 eglwys a chapel, sef Egwlys Trefriw, hen Eglwys Llanrhychwyn, Capel Gwydir Uchaf ac Eglwys Llanrwst.
O Drefriw byddwn yn cerdded trwy’r coed uwchben Dyffryn Crafnant er mwyn cyrraedd Eglwys Llanrhychwyn, wedyn disgyn ar ymyl y goedwig tuag at Gapel Gwydir Uchaf. Byddwn wedyn yn dilyn yr afon i Lanrwst, a’i dilyn eto yn ôl i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 7.5 milltir / 12 km
Gradd: Hawdd, hamddenol
Amser ymadael: 10.00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)
Arweinyddion: Ken Brassil a Bernard Owen
(Mae Ken a Bernard ill dau yn siaradwyr Cymraeg.)
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.