Dydd Gwener 17 Mai, 2024
Dŵr Cymru
Taith gerdded yng ngodrau’r Carneddau yw hon.
Byddwn yn ymwald â 4 llyn sy’n darparu dŵr i’r trefi arfordirol a Dyffryn Conwy.
Byddwn yn teithio i Gwm Eigiau yn ein minibws cyn cerdded i Lyn Melynllyn a Llyn Dulyn cyn dychwelyd ar lwybr arall. Wedyn byddwn yn pasio Llyn Eigiaau cyn cerdded dros y bryn i Ddyffryn Cowlyd, o le bydd y minibws yn mynd â ni yn ôl i Drefriw.
Mae hon yn ardal anghysbell. Weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd a digon i’w yfed.
Pellter: tua 10 milltir / 16 km
Gradd: Cymedrol/caled oherwydd y tir (garw mewn mannau) a’r pellter. Rhyw 1,400 tr / 425 m of esgyniad)
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 09:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Tony Ellis a Nigel Thomas
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.