Contents
Dydd Sul 20fed Mai, 2018
Taith Gerdded Glasurol i Ddau Lyn Trefriw
Ymunwch â ni am daith sydd yn denu llawer o ymwelwyr i Drefriw – y gylchdaith glasurol o Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd. O Drefriw byddwn yn esgyn heibio i Raeadr y Tylwyth Teg ac ymlaen i ymylon Coedwg Gwydir. Soniwyd am y Goedwig mewn llenyddiaeth dros 500 can mlynedd yn ôl, ac yn bendant byddwn yn gweld peth o’i hanes, gan basio hen weithfeydd a Chofeb Taliesin.
Mae’r golyfeydd o’r ddau lyn yn odidog, felly dowch â chamera. Byddwn yn stopio i gael cinio, ac bydd ‘na ddigon o gyfle i siarad efo’ch arweinwyr am hanes a chwedlau’r ardal. Ar ôl gorffen ein cylchdaith o’r ddau lyn, byddwn yn ddychweld i Drefriw, ac os bydd y tymor yn caniatau, byddwn yn ymweld â llechwedd llawn clychau’r gog ar ein ffordd yn ôl.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: tua 6.5 milltir / 10.5 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol iawn
Cyfarfod: 10.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinwyr: Brian Watson a Liz Burnside
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.