Contents
Dydd Gwener 18fed Mai, 2018
Hanes Naturiol ar Hen Lwybr y Porthmyn
Taith gerdded o Drefriw i Gapel Curig. Byddwn yn dilyn hen lwybr y porthmyn, mynd trwy hen goetir, pasio hen fwyngloddiau, a chroesi gweundir. Os bydd y tywydd a gallu’r grŵp yn caniatau, byddwn yn dringo i gopa’r Crimpiau, o le mae golygfeydd gwych o’r mynyddoedd o gwmpas. Dyma gyfle i ddysgu am yr hanes folcanig a thectonig sydd wedi creu’r creigiau a’r dirwedd yn Eryri.
Bydd digon o amser am banad yng Nghapel Curig neu ym Mhlas y Brenin cyn dal y bws mini yn ôl i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd 6 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 8 milltir / 13 km
Gradd: Cymedrol
Cyfarfod: x.xx y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: i’w gadarnhau
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Bydd archebion yn agor ar 15fed Mawrth.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.