Contents
Dydd Sul 19 Mai, 2024
Cyflwyniad i redeg y llwybrau!
Dyma gyfle i gymysgu cerdded efo rhywfaint o redeg.
Byddwn yn cychwyn yn y pentref, wedyn ar ôl milltir cyrraedd llwybr serth i ymylon coedwig Gwydir. Gobeithio bydd ‘na amser i ymweld â hen eglwys Llanrhychwyn ar ein ffordd i’r pwynt uchaf lle cawn ni olygfeydd gwych. Wedyn byddwn yn disgyn i Lyn Geirionydd ac yn ôl i Drefriw efo golygfeydd i lawr Dyffryn Crafnant.
Mae ‘na ddarnau sy tipyn serth a garw, ond byddwn yn symud am bês fydd yn siwtio’r grŵp, a dan ni’n disgwyl cerdded y darnau serth, gan ailgrwpio’n amal.
Hyd: Hanner diwrnod (2½ awr, 10:30 – 13:00)
Pellter: Tua 7 milltir / 11 km
Addasrwydd: Rhiad i chi fod yn ddigon heini i daclo’r cerdded/rhedeg a ddisgrifir uchod.
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Beth i’w wisgo: Rhaid gwisgo ‘trail shoes’ (fydd sgidiau cerdded ddim yn addas). Mae’n debyg byddwn yn dod ar draws llefydd gwlyb neu gorslyd. Hefyd basai’n syniad da cario dŵr yfed.
Amser ymadael: 10:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Fliss Aries a Nick Denney
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.