Dydd Sul 19 Mai, 2024
Rhufeiniaid a gwladwyr
Taith gerdded gron o Fetws y coed i Ddyffryn Lledr a Llyn Elsi yw hon, sy’n ardal weddol newydd i ni.
Bydd ein minibws yn mynd â ni i Fetws y coed, lle byddwn yn dilyn yr afon i groesi Pont y Mwynwyr cyn dilyn Sarn Helen, y ffordd Rufeinig, heibio i hen bentref Riwddolion a dros y bryn i Bont y Pant yn Nyffryn Lledr. O fama byddwn yn dilyn Afon Lledr i Bont Gethin, wedyn dilyn y llwybr i fyny i Lyn Elsi, uwchben Betws y coed, wedyn i lawr i’r pentref.
Bydd ein minibws yn ein dychwelyd i Drefriw.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 8 milltir / 13 km
Gradd: Cymedrol, efo rhyw 1,500 troedfedd o esgyniad
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Amser ymadael: 09:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Maria Denney a Marianne Siddorn
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.