Dydd Gwener 15 Mai, 2026 10:00 y.b.
Dychwelyd i Goetir Hynafol
(Gwella ein coedtiroedd ar gyfer bywyd gwyllt) Tocynnau – £7
(PAWS = Plantations on Ancient Woodland Sites)
Ar ôl dringfa serth i ddechrau heibio Mwynglawdd Plwm Aberllyn a thrwy ran o SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) Mwyngloddiau Coedwig Gwydir, bydd y tir yn gwastadu. Byddwn yn edrych ar rywfaint o waith y mae CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) wedi’i gyflawni dros y gaeaf er mwyn gwella strwythur ac amrywiaeth rhywogaethau’r coetir ar gyfer bywyd gwyllt.
Byddwn yn mwynhau golygfeydd syfrdanol ar draws Dyffryn Conwy, yn cael cipolwg ar Foel Siabod a’r Wyddfa, cyn anelu am dawelwch Llyn Parc. Mae hefyd yn gyfle i chwilio am flodau gwyllt y gwanwyn, gwrando ar gân yr adar, a thrafod y cynlluniau ar gyfer adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS) yng Nghoedwig Gwydir gyda Rob Booth, Swyddog Adfer Bioamrywiaeth CNC.
Hyd: hanner diwrnod
Pellter: 3 milltir / 5 km
Gradd: Cymedrol. (Serth mewn mannau, felly rhaid bod yn ddigon heini)
Cofiwch – ardal wledig yw hon, a bydd ein teithiau cerdded yn mynd â ni allan i gefn gwlad lle bydd rhai rhannau o lwybrau yn anwastad, ac weithiau byddant yn wlyb a llithrig dan draed. Dydy hi ddim fel cerdded ar balmentydd!
Cofiwch wisgo ar gyfer y tywydd a sicrhau bod gennych esgidiau addas.
Amser ymadael: 10:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw(LL27 0JH, SH781631) Cyrhaeddwch 20 munud cyn amser cychwyn y daith.
Cludiant: Byddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded.
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Rob Booth (NRW Biodiversity Restoration Officer) a Matthew Driver
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Pris: £7 Pam rydym yn codi tâl am deithiau cerdded?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Os ydy’r daith hon wedi gwerthu allan, gwiriwch eto’n nes at yr amser gan fod gynnon ni gansladau weithiau. Mae croeso i chi bori drwy ein teithiau cerdded eraill sydd ar gael.
Sylwch, er ein bod bellach yn codi tâl am ein teithiau cerdded, dan ni’n dal i ofyn am roddion gwirfoddol (mae cerdyn yn well, ond derbynnir arian parod) i helpu i gadw prisiau ein tocynnau mor isel â phosibl. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.
