Dydd Sul 17eg Mai, 2020
Creigiau Poethion a Cherrig Anferth
Crwydro hanes hynafol ar ffin ogleddol y Parc Cenedlaethol.
Byddwn yn dal y bws mini i Fwlch y Ddeufaen, uwchben Rowen, yna cerdded ar lwybr taclus, ffriddoedd a 1/4 tir corsiog (dim nofio!).
Polion cerdded a sgidiau addas yn hanfodol.
Byddwn ni’n ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Cofiwch – weithiau mae’n oer yng ngodreuon y Carneddau, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 6 milltir / 10 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol iawn
Cyfarfod: 9:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.
Arweinwyr: Ken Brassil a Bernard Owen
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.