Contents
Dydd Sul 17eg Mai, 2020
Gwydir Cudd
Yn guddiedig yng Nghoedwig Gwydir mae nifer o lynnoedd hyfryd a llawer o hanes diddorol. Ac oherwydd bod y goedwig yn weddol uchel, ceir golygfeydd hyfryd dros y dyffrynnoedd a thraw i fynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau. Ymunwch â dau arweinydd sydd yn nabod pob modfedd o’r ardal ddiddorol hon, ac sy wedi dewis y goreuon i chi!
Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 10.5 milltir / 16 km
Gradd: Cymedrol, ond efo cryn dipyn o esgyniad a disgyngyniad (gweler isod)
Cyfarfod: 8:45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.
Arweinwyr: Tony Ellis a Mike Bolsover
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.