Dydd Sul 17eg Mai, 2020
Ceffylau Gwyllt
Byddwn yn mynd ar ein bws mini i Gonwy, ac o fan’na byddwn ni’n cerdded ar hyd Mynydd y Dref tuag at Sychnant, sydd yn cynnig golygfeydd arfordirol gwych. Byddwn wedyn yn mynd i’r tir tuag at Ben-y-Gaer, sydd yn hen gaer o Oes yr Haearn uwchben Dyffryn Conwy, gan basio drwy ardal sy’n llawn meini hir hynafol a siambrau claddu. Yn aml iawn mae ceffylau gwyllt y Carneddau i’w gweld yn yr ardal hon.
Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 10 milltir / 16 km
Gradd: Cymhedrol. (Mae ‘na gwpl o ddarnau serth, h.y. wrth esgyn Mynydd y Dref, a ger Sychnant). Bydd llawer o’r daith ar lwybrau dros weundir a’r ucheldiroedd. Cofiwch y medrith hi fod yn oer, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.
Cyfarfod: 8:00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.
Arweinyddion: Karen Martindale a Graham Martindale
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.