Dydd Sul 17eg Mai, 2019
Crimpiau
Mae Crimpiau (sy’n golygu hard sharp edge; ridge, spur; ledge) wedi’i leoli rhwng Capel Curig a Llyn Crafnant, ac mae’n llecyn manteisiol er ei uwchder o 475m / 1558′ yn unig. Mae ffotograffydd Nick Livesey yn deud yn ei lyfr ‘Photographing the Snowdonia Mountains’, “Being little more than a minor incident on a long knobbly ridge, lowly Crimpiau harbours a secret that few would suspect from below”. Mae eraill wedi deud pethau tebyg.
Byddwn ni’n mynd yn y bws mini o Drefriw i Gapel Curig, wedyn cerdded yn ôl, gan wneud gwyriad bach i esgyn Crimpiau ei hun. Yn ogystal â Crimpiau, mae’n daith ardderchog efo golygfeydd hyfryd o’r dechrau i’r diwedd.
Byddwn ni’n ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: Tua 9 milltir / 14 km
Gradd: Cymedrol, ond hamddenol iawn
Cyfarfod: 9:15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith.
Arweinwyr: Keith Hulse a Linda Roberts
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, defnyddiwch y bocs ‘Eventbrite’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.