Creadigaethau Natur

Dydd Sadwrn 21ain Mai, 2022

Creadigaethau Natur – i deuluoedd

Mae’r daith hamddenol, leol hon ar gyfer teuluoedd, a’r arweinydd fydd yr arlunydd Tim Pugh (gweler ei wefan yma) a fydd yn ein helpu i greu gwaith celf dros dro wedi’i ysbrydoli gan y byd naturiol, gan ddefnyddio deunydd (fel  priciau, dail a moch coed) a gasglir ar ein daith gerdded yn Nyffryn Crafnant. Dewch â chamera er mwyn recordio eich campwaith!

Hyd:  Hanner diwrnod, gan gychwyn yn hwyr.  Dewch â phecyn bwyd. 

Pellter:  Tua 3 milltir / 5 km

Gradd:  Hawdd a hamddenol

Amser ymadael:  11:30 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Mwy yma.)

Arweinwyr:    Tim Pugh a Cate Bolsover

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Cliciwch yma i ddarllen am y rheolau Covid cyfredol yng Nghymru, a sut byddwn ni’n eu trin.

Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.

Yn ôl i’r brig